Matrics Gwersi

‘Atal Troseddu Cyfreithlon yw Addysg’

Cyfres o wersi yw’r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn ymestyn o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4 ac sy’n codi ymwybyddiaeth am faterion cymunedol a hyrwyddo atal troseddau. Cyflwynir y negeseuon hyn gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY). Mae’r tîm o 85 swyddog yn gweithio ymhlith y pedwar Gwasanaeth Heddlu ledled Cymru ac maent wedi ymrwymo i gefnogi gwaith athrawon ABCh mewn ysgolion.

Cyflwynir y gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r rhaglen yn gynllun gwaith troellog gyda phob gwers yn briodol i oedran gyda’r cynnwys mwyaf diweddar yn adeiladau ar yr un flaenorol. Mae’r matrics atodedig yn dangos hyd a lled y rhaglen sydd ar gael i ysgolion. Gellir dod o hyd i waith dilynol ar y pynciau hyn ar y wefan hon yn yr adran athrawon.