Y Protocol Trechu Troseddau mewn Ysgolion

Rydym ni wedi paratoi y clanllaw calynol i'ch helpu chi, fel rhiant, i ddeall sut y mae’r Heddlu a’ch ysgol yn annog ymddygiad da yn yr ysgol.

Mae'n anelu at:

  • Esbonio sut y mae’r Protocol Trechu Troseddau Mewn Ysgolion, sef cytundeb rhwng yr ysgol a’r heddlu, yn osgoi troseddoli pobl ifainc ac yn cefnogi eich plentyn.
  • Ddweud wrthych beth sy’n digwydd os yw’ch plentyn yn gysylltiedig â digwyddiad yn yr ysgol a sut y mae’r Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion yn gysylltiedig.
  • Esbonio sut y gall yr ysgol a’r heddlu atal eich plentyn rhyg fynd i mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol.

Fwy am y Protocol Trechu Troseddau mewn Ysgolion

Ers cyflwyno'r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (AWSLCP) mae swyddogion heddlu yn wynebau cyfarwydd mewn ysgolion a gofynnir iddynt yn aml i gynorthwyo neu gefnogi gyda digwyddiadau. Ysgrifennwyd y Protocol Trechu Troseddau mewn Ysgolion i roi dealltwriaeth gliriach o’u rolau a’r berthynas rhwng ysgolion a’r heddlu wrth ddelio â digwyddiadau. Mae’n egluro’n glir y weithdrefn ar gyfer delio â digwyddiadau mewn ysgolion gan sicrhau ymateb cyson gan swyddogion heddlu ledled Cymru.

Mae’n amlinellu’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng pedwar heddlu Cymru ag ysgolion gan ddisgrifio sut y dylai gweithwyr proffesiynol ymateb i ddigwyddiadau a sut orau y gellir hwyluso trefniadau gwaith cadarnhaol rhwng ysgolion a gwasanaethau heddlu.

Mae’r protocol yn egluro’r ddyletswydd a osodir ar swyddogion heddlu unwaith y byddant yn ymwneud mewn digwyddiad ar dir ysgol. Fodd bynnag, mae llawer iawn o hyblygrwydd a disgresiwn ynglŷn â pha bryd y bydd Pennaeth yn cynnwys yr Heddlu, ond mae’r ddogfen hon yn amlinellu’n glir y ffiniau o fewn pa rai y dylai swyddogion heddlu weithredu a hefyd gwna argymhellion i ddarparu cymorth i ysgolion. 

Prif nod y Protocol Trechu Troseddau mewn Ysgolion yw osgoi troseddoli pobl ifanc pryd bynnag mae hynny’n bosibl.

Er mwyn cyflawni hyn mae’r protocol yn darparu arweiniad clir ar y canlynol:

  • sut y dylai swyddogion ddelio â digwyddiadau troseddol (neu droseddol honedig) ar dir ysgol
  • y ffiniau o fewn pa rai y dylai swyddogion heddlu weithredu
  • sut y gall ysgolion a’r Heddlu fabwysiadu dulliau sy’n cynorthwyo i ddadroseddoli pobl ifanc drwy gynnig cefnogaeth ac arweiniad iddynt e.e. defnyddio dulliau  adferol.

Cyflwynwyd y protocol hwn yn 2005 ac mae’n ddogfen weithiol sy’n cael ei diweddaru pryd bynnag y caiff deddfwriaeth newydd ei chyflwyno.

Mae canllawiau ar gyfer ysgolion ar gael yn yr adran athrawon.

Protocol Rhawd Ysgol

Cytunwyd ar y protocol hwn rhwng lluoedd Heddlu Cymru a Chyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru ac mae'n rhoi arweiniad ar y gweithdrefnau ar gyfer delio  â digwyddiadau yn yr ysgol.

School Beat Crime Protocol

File link icon for WPSP_School_Crime_Beat_Protocol_ENG_wpsp_scbp_20230222.pdfWPSP_School_Crime_Beat_Protocol_ENG_wpsp_scbp_20230222.pdf
Rydym yn gweithio i gyhoeddi’r protocol Cymraeg cyn gynted â phosibl.