Mae cyflwyniad gwasanaeth dwyieithog ar gael i’r swyddogion eu cyflwyno yn eu holl ysgolion o ganol mis Hydref hyd at 5 Tachwedd. Atgoffir nifer fawr o bobl rhwng 5 ac 16 oed ynglŷn â’u diogelwch personol eu hunain a’u cyfrifoldeb at eraill yn eu cymunedau drwy’r cyflwyniadau. Fe’u gwneir yn ymwybodol hefyd o ganlyniadau unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cefnogir y cyflwyniadau gwasanaeth gan wersi ymddygiad gwrthgymdeithasol eraill. Dosberthir posteri i ysgolion a chyfeirir disgyblion i wefan www.schoolbeat.org i gael rhagor o wybodaeth.