IDAHO

Fel ffordd o nodi IDAHO - Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia (17 Mai, 2011) dangosodd Heddlu Dyfed Powys eu cefnogaeth drwy wisgo Rhubanau Ymwybyddiaeth IDAHO ‘Zero Tolerance Stop Homophobia’ oren. Mae’r llu wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y sefydliad ynglŷn â staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (L G B & T).  Gwelwyd Swyddog Cymorth Troseddau Casineb, Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion a thimau Plismona Cymdogaeth yn gwisgo rhubanau yn eu cymunedau. 

Dywedodd Rhian Glynn, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned Troseddau Casineb: “Roedd y rhuban yn rhywbeth a wisgwyd i nodi’r diwrnod, ond gall staff barhau i’w gwisgo yn ddyddiol i ddangos eu cefnogaeth i ymagwedd dim goddef homoffobia.”

Yn ystod yr wythnos bu SHCY yn brysur yn codi ymwybyddiaeth o IDAHO mewn ysgolion uwchradd a chyflwynwyd gwersi a gwasanaethau perthnasol ar amrywiaeth o’r Rhaglen Graidd. 

Meddai un swyddog,

“Daeth nifer o bobl ataf a oedd eisiau gwybod pam fy mod yn gwisgo rhuban oren. Roeddwn yn gallu sôn am y diwrnod IDAHO a’i bwysigrwydd.”

Bu banner yr enfys hefyd yn cyhwfan o Bencadlys yr Heddlu i nodi’r diwrnod.