Wrth siarad â’ch plant ceisiwch gytuno ar reolau a ffiniau;
1.Gosod reolau a ffiniau realistig a daliwch gyda nhw. Cytunwch ar y rheolau gyda’ch plant.
2. Y mae rheolau yn fwy tebyg o gael eu cadw os byddant wedi cael eu trafod, eu deall a’u cytuno.
3.Trafod pam y mae angen y rheolau. Gall hwn helpu’ch plant i weld eich bod yn poeni am eu lles.
4.Cyrraedd cytundeb ar ganlyniadau torri rheolau. Gwnewch yn siwr ei bod yn rhywbeth teg ac yn addas ac yn rhywbeth y byddwch yn barod ei ddilyn.
5.Gwobrwyo’ch plant pan fyddant yn cadw at y ffiniau a osodir.
1.Gosod rheolau nad ydych chi wedi’u trafod gyda’ch plant.
1. Arhoswch yn dawel.
2. Arhoswch tan y diwrnod nesaf i drafod pethau.
3. Dewiswch amser da i siarad.
4.Os byddwch yn poeni, gofynnwch am gyngor meddygol bob amser.
1. Siarad am bethau pan fydd eich plant dan ddylanwad alcohol.
2. Gael eich tynnu i mewn i ddadleuon.
1. Gwybod gyda phwy y mae eich plentyn a beth maent yn ei wneud.
2. Dangos diddordeb yn niddordebau’ch plentyn, pwy ydy eu ffrindiau a ble maent yn hoffi bod.
3. Dod i nabod ffrindiau’ch plentyn – os ydy ffrindiau’ch plentyn yn yfed alcohol, wedyn y mae’ch plentyn yn fwy tebyg o yfed hefyd.
4. Siarad â rhieni ffrindiau’ch plentyn a chytuno ar ffiniau gyda’ch gilydd.
5. Wrth ofyn am weithgareddau a ffrindiau’ch plentyn a ble maent yn mynd, gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod mai o achos eich bod yn poeni amdanynt y gwnewch e ac nid o achos eich bod yn eu drwgdybio nhw.
6. Os byddwch yn cadw alcohol yn y tŷ, byddwch yn ymwybodol o ba mor hawdd y mae ei gyrraedd.
1. Cymryd yn ganiataol fod rhieni eraill â’r un syniadau â chi ynglŷn a phlant ac alcohol – gofynnwch am eu barn.