Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1. Pa dystiolaeth sydd i awgrymu bod alcohol wedi’i gysylltu’n agos ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol?

Mae pobl ifanc sy’n yfed alcohol unwaith yr wythnos, neu’n amlach, yn cyflawni nifer anghyfartal o droseddau, gan gyfrif am 37% o’r holl droseddau, y sonnir amdanynt, gan blant 10–17 oed.

 

2. Pa gyngor allaf ei roi i’m plentyn sydd ar fin mynd allan am y nos?

  • Bwyta cyn mynd allan am y nos.
  • Cynllunio sut y bydd yn mynd adref ar ddiwedd y noson.
  • PEIDIO BYTH AG YFED a GYRRU neu dderbyn lifft gan rywun sydd wedi bod yn yfed alcohol.
  • Defnyddio tacsis trwyddedig bob amser.
  • Yfed dŵr yn rheolaidd a/neu bod yn gymedrol drwy yfed rhai diodydd meddal.
  • Aros gyda ffrindiau.
  • Peidio â chymysgu alcohol gyda chyffuriau.
  • Mae yfed mewn rowndiau yn gallu gwneud i chi yfed mwy nag y mae rhywun yn ei ddymuno – ceisiwch yfed yn arafach.

 

3. Fel rhiant, pa gyngor allaf ei gynnig i’m plentyn ynglŷn â sbeicio diodydd?

  • Peidiwch BYTH â gadael eich diod heb neb i ofalu amdano.
  • Derbyniwch ddiod gan ddieithryn, dim ond os byddwch yn ei wylio’n cael ei weini.
  • Gofynnwch i weithwyr bar agor poteli o’ch blaen chi.
  • Cadwch boteli yn eich llaw a defnyddiwch eich bawd i guddio ceg y botel.
  • Os byddwch yn teimlo’n sâl neu’n mynd yn ddryslyd, ceisiwch gymorth meddygol gan eich ffrindiau neu weithwyr yn y fan lle rydych chi.

Os bydd diod eich plentyn cael ei sbeicio sbeicio, dywedwch wrth yr Heddlu.

 

4. Pam mae pobl ifanc yn dechrau camddefnyddio alcohol?

  • amgylchedd cartref  – yn arbennig wedi’i gysylltu ag amddifadedd
  • mwynhad
  • chwilfrydedd
  • i leddfu poen
  • gwrthryfela naturiol
  • argaeledd
  • cost
  • gweld rhieni’n camddefnyddio cyffuriau neu’n dioddef o salwch meddwl  
  • diffyg magwraeth gan rieni
  • cyfeillgarwch â chyfoedion sy’n camddefnyddio.

 

5. Mewn bar mae gwydraid safonol i gael ar gyfer cwrw a shot safonol ar gyfer chwisgi. Pa wydr sy’n cynnwys y mwyaf o alcohol?

Mae’r ddau’n cynnwys swm tebyg o alcohol.

Mae hanner peint o gwrw (3.5% ABV) a shot sengl o wirodydd (40% ABV) ill dau yn cynnwys tua 1 uned o alcohol.

Mae’r alcohol yn ôl cyfaint bob math o ddiod yn amrywio - gall cwrw amrywio o 3.5 - 8% o alcohol yn ôl cyfaint (ABV).

Mae gwin yn amrywio o 9 – 14.5%, sy’n golygu y gall un gwydraid o win 175ml gynnwys rhwng 1.5 a 3 uned.

Mae gwirodydd gan fwyaf yn 40% – gwiriwch y label ar y cefn i gadw llygad ar faint o unedau yr ydych yn eu hyfed.

Mae diodydd a weinir yn y cartref yn aml yn fwy na’r diodydd safonol.

 

6. Beth yw uchafswm yr alcohol a gynghorir i’w yfed mewn diwrnod ar gyfer oedolion sy’n iach?

(Mae uned yn cynnwys 8 gram o alcohol.)

Ni ddylai dynion na merched yfed mwy na 14 uned o alcohol bob wythnos.

Dylid gwasgaru hyn yn gyson dros 3 diwrnod neu fwy. 

 

7. Mae effaith alcohol yn gwahaniaethu o berson i berson. Ar beth y mae hyn yn dibynnu?

Mae union effaith alcohol yn amrywio o berson i berson. Mae faint a yfwch wrth gwrs yn ffactor bwysig, ond nid hon yw’r unig ffactor. Mae’r gwahaniaeth o ran effaith yn dibynnu hefyd ar:

  • Eich adeiladwaith genetig a’ch iechyd cyffredinol.
  • Defnydd o gyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon.
  • Eich rhyw, oedran maint a phwysau.
  • A ydych wedi bwyta ai peidio a pha mor gyflym yr ydych wedi yfed eich diodydd.
  • A ydych wedi blino neu’n isel eich ysbryd.

 

8. Beth yw rhai o’r effeithiau posibl a gysylltir â defnyddio a chamddefnyddio alcohol?

  • Cancr.
  • Clefyd yr iau/afu.
  • Mae alcohol yn gyffur tawelu – mae’n arafu adweithiau.
  • Gall llawer iawn arwain at golli ymwybyddiaeth.
  • Gall llawer iawn arwain at leferydd aneglur a cholli cydbwysedd a chydsymud.
  • Mae hyd yn oed ychydig bach yn gwneud i bobl fod yn fwy ymlaciol a llai swil.
  • Gall wneud rhai pobl yn ymladdgar ac weithiau’n dreisgar.
  • Mae effeithiau’n dechrau o fewn 5-10 munud a gallant barhau am nifer o oriau.
  • Ymddangos yn ofnus neu dan straen.
  • Teimlo’n gysglyd.
  • Patrymau bwyta rhyfedd.
  • Diffyg egni.
  • Problemau croen / smotiau.
  • Methu cysgu.
  • Ymddygiad cyfrinachgar.

 

Mae ymchwil yn dangos bod arferion yfed rhieni yn cael effaith ar eu plant.

Mae rhieni yn gofyn yn aml:

 

9. A yw’n iawn os mai’r peth cyntaf a wnewch ar ôl diwrnod caled yn y gwaith yw agor potel o win neu gwrw?

Efallai y bydd eich plant yn gweld alcohol fel ffordd oedolyn o leddfu pwysau neu bryder ac y byddant yn meddwl bod yfed yn ffordd oedolyn o ymdopi â phwysau arholiadau neu unrhyw anawsterau eraill yn eu bywydau.

 

10. Pa mor bwysig yw hi i geisio cadw at ganllawiau argymelledig dyddiol o ran alcohol ac i osgoi meddwi o flaen fy mhlentyn?

Os byddwch yn defnyddio alcohol i feddwi a dim yn talu gormod o sylw i’r canllawiau argymelledig efallai y bydd eich plentyn yn meddwl mai ar gyfer meddwi y mae alcohol a byddant yn meddwl y gellir anwybyddu canllawiau argymelledig.

 

11. Pam y mae hi’n bwysig i beidio â chellwair am feddwi o flaen fy mhlant?

Efallai y bydd eich plant yn meddwl eich bod yn cymeradwyo pobl yn meddwi ac yn gwneud pethau gwirion. Gallant hefyd gredu, os byddwch yn gweld ochr ddoniol pobl yn meddwi, na fyddai ots gennych chi petaen nhw’n gwneud hynny.

 

12. A fyddwch chi byth yn anwybyddu eich cyngor eich hun?

Rydych chi wedi cynghori’ch plentyn ynglŷn â pheryglon cysylltiedig ag yfed gormod, ond pan ddaw e i’ch yfed chi’ch hun byddwch yn anwybyddu’r cyngor hwn. Bydd eich plentyn yn meddwl bod canllawiau a ffiniau yn ymwneud ag yfed ddim yn bwysig a bod dim rhaid cadw atynt.

 

13. Beth yw’r ffordd orau i leihau effaith pen mawr?

Yfed dŵr – mae’n helpu i ail-hydradu’r corff, ond nid oes ffordd o’i wella’n llwyr.

Nid oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i gyflymu’r broses o chwalu’r alcohol yn eich corff, neu sobri eich hun yn gyflym. Peidiwch byth â chael eich temtio i feddwl y bydd coffi neu gawod oer yn eich sobri. Mae alcohol yn ddiwretig – neu’n eich dadhydradu, felly mae yfed digon o ddŵr cyn mynd i’r gwely ac yn ystod y noson yn helpu eich corff.  Dŵr, cwsg ac amser yw’r feddyginiaeth orau.

 

14. Faint o bobl ifanc 11–15 oed yn y DU sy’n yfed alcohol yn rheolaidd?

Dim ond 18%, neu tua dau ym mhob deg, o blant a phobl ifanc 11–15 oed yn y DU sy’n yfed alcohol yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod tua 80%, neu wyth o bob deg, ddim yn yfed yn rheolaidd, neu ddim yn yfed o gwbl. Dim ond 3% o blant 11 oed sy’n yfed yn wythnosol ac mae hyn yn codi i 38% o bobl ifanc 15 oed, ond mae 52% o bobl ifanc 11–15 oed ddim erioed wedi cael diod lawn.

Er bod llawer o bobl ifanc wedi blasu alcohol – yn gyfreithlon yn y cartref gyda’u rhieni neu yn anghyfreithlon gyda ffrindiau mewn mannau cyhoeddus, nid yw’r rhan fwyaf yn yfed yn rheolaidd, beth bynnag a ddywedant.

Dim ond lleiafrif bach iawn sy’n yfed llawer (bydd 14% o bobl ifanc 15–16 oed yn meddwi’n rheolaidd). Felly mae dewis peidio yfed yn opsiwn da ac yn un a  ddewisir gan lawer o bobl ifanc.

 

15. Faint o farwolaethau a achosir gan alcohol yng Nghymru bob blwyddyn?   

Tua 1000 ac y mae’r nifer yn codi.

 

16. Faint o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth am gamddefnyddio alcohol a fu yng Nghymru yn 2009–10? 

Tua 15,000. Mae amcangyfrifiad o’r gost i’r gwasanaeth iechyd o glefydon cronig sy’n gysylltiedig ag alcohol a digwyddiadau brys cysylltiedig ag alcohol rhwng £70 a £80 miliwn bob blwyddyn.

  

17. A yw diodydd alcoholaidd yn isel mewn calorïau?

Nac ydyn! – Chwedl yw hon.

  

18. A yw yfed drwy welltyn yn eich helpu i feddwi’n gyflymach?

Nac ydy! – Chwedl arall eto.

 

19. Beth yw yfed sbri a beth yw’r canlyniadau?

Yfed sbri yw pan fydd person yn yfed mwy na 5 uned o alcohol mewn un sesiwn.

Nid oes terfyn diogel ar gyfer yfed alcohol pan fyddwch dan 18 oed. Mae pobl ifanc yn llai tebygol o ymdopi ag effeithiau alcohol, yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae hyn oherwydd nad yw’r ymennydd wedi datblygu’n llawn, ac effeithir yn fwy arno gan alcohol nag ar ymennydd oedolyn.

Mae alcohol yn effeithio ar eich cyd-symud, cydbwysedd a’ch synnwyr cyffredin a bob blwyddyn bydd llawer o bobl ifanc yn dioddef anafiadau i’w hwyneb neu’n torri esgyrn – neu’n achlysurol dioddef anableddau difrifol. Mae tua 20% o’r holl dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol. Mae 22% o farwolaethau damweiniol yn y DU yn gysylltiedig ag alcohol.

Mae peth tystiolaeth y gall hyd yn oed ychydig ddyddiau o yfed sbri ddechrau lladd celloedd y pen. Yn y gorffennol credid bod hyn ond yn digwydd gyda phobl a oedd yn yfed yn barhaus am gyfnodau hir.

Gall fod nifer o risgiau a chanlyniadau posibl i Yfed Sbri. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwenwyn alcohol. Mae llawer o bobl ifanc yn marw o ganlyniad i wenwyn alcohol ac o ganlyniad i yfed sbri ar y penwythnosau.
  • Ymddygiad swnllyd, dadleugar, ac ymosodol.
  • Ymddygiad o gymryd risgiau a allai olygu cael rhyw heb gynllunio a rhyw anniogel a allai arwain at drosglwyddiad STI a / neu feichiogrwydd.
  • Anafiadau anfwriadol e.e. damweiniau car, codwm, llosgiadau, boddi, anafiadau gydag arfau tanio, ymosodiad rhywiol a thrais domestig, pwysedd gwaed uchel, strôc, trawiad ar y galon a chlefydau cardiofasgwlaidd eraill. Gallai hyn arwain at farwolaeth gynnar.
  • Clefyd yr afu/iau. Gall yr afu/iau ddim ond prosesu tua 1 uned o alcohol bob awr ac nid oes ffordd o gyflymu’r broses hon. Hyd nes y bydd yr afu/iau wedi cael amser i ocsideiddio’r holl alcohol a amlyncwyd, mae’n parhau i gylchredeg drwy’r llif gwaed.
  • Posibilrwydd o ddefnydd cyffuriau yn hirdymor.

Cofiwch, nid oes terfyn diogel ar gyfer yfed alcohol pan fyddwch dan 18 oed.