Cymorth

Ble gallaf gael help a chyngor?

DAN 24/7 - www.dan247.org.uk

0808 808 2234  

Mae Dan 24/7 yn cynnig gwybodaeth neu gymorth rhad ac am ddim a chyfrinachol ar faterion sy’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol.  

Ar y wefan ceir dolen i gronfa ddata ar-lein a fydd yn eich cynorthwyo i ganfod asiantaethau cymorth yn eich ardal.

 

Alcohol Concern Cymru - www.alcoholconcern.org.uk

02920 226746 

Alcohol Concern yw’r asiantaeth genedlaethol sydd yn cefnogi camddefnyddio alcohol. Hoffent leihau amlder a chostau niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol ac i ehangu amrediad ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i bobl gyda phroblemau sydd yn gysylltiedig ag alcohol.

Y mae Alcohol Concern yn darparu gwybodaeth ac yn annog trafodaeth ar yr ystod eang o bynciau polisi cyhoeddus sydd yn cael eu heffeithio gan alcohol, gan gynnwys iechyd cyhoeddus, tai, plant a theuluoedd, troseddau a thrwyddedu. Y maent yn cefnogi darparwyr gwasanaethau arbenigol a rhai sydd ddim yn arbenigol wrth iddynt helpu ymgodymu â phroblemau alcohol ar lefel lleol,tra’n gweithio hefyd i ddylanwadu ar bolisi alcohol cenedlaethol.

 

ChildLine - www.childline.org.uk

0800 11 11  

Dyma wefan rhyngweithiol gydag adrannau i blant a phobl ifanc, athrawon a rhieni. Y mae’n darparu gwybodaeth am gamddefnyddio alcohol a diogelwch personol, pwysau cyfoedion, troseddau a’r gyfraith, y cartref a theuluoedd, diogelwch ar-lein a gweithgareddau rhyngweithiol.

 

Drink Wise Wales - www.drinkwisewales.org.ukhttp://drinkwisewales.org.uk/

Y mae’r wefan hon wedi ei chynhyrchu gan Alcohol Concern Cymru. Asiantaeth genedlaethol yw Alcohol Concern Cymru sydd yn ymgyrchu am bolisi effeithiol ar gamddefnyddio alcohol a gwasanaethau gwell ar gyfer pobl y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio gan broblemau sydd yn gysylltiedig ag alcohol. Nid yw Alcohol Concern Cymru yn darparu help a chyngor ar broblemau sydd yn gysylltiedig ag alcohol i unigolion ond y mae’r tudalen dolennau cyswllt yn rhoi manylion am asiantaethau lleol a fydd yn gallu darparu cymgor arbenigol i chi.

 

GIG (NHS) - www.nhsdirect.wales.nhs.uk

0845 46 47

Y mae GIC Direct Cymru yn darparu gwybodaeth iechyd ar amrediad eang o gyflyrau, triniaethau a gwasanaethau iechyd lleol.