Y mae Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn gyfres o wersi sydd yn ymestyn o Gyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol Pedwar (disgyblion 5 i 16 oed) gan godi ymwybyddiaeth o bynciau cymunedol a chan hyrwyddo atal troseddau. Cyflwynir y negeseuon hyn gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY).
Y mae’r Rhaglen yn gynllun gwaith ar ffurf troell gyda phob gwers yn addas i oedrasn arbennig gyda chynnwys cyfoes sydd yn adeiladu ar y wers flaenorol. Y mae’r matrics yn dangos maint y Rhaglen sydd ar gael i ysgolion. Matrics Gwersi. Y mae gwaith i ddilyn ar y pynciau hyn ar gyfer yr athrawon hefyd ar gael yn adran yr athrawon.
Fel rhan o’r Rhaglen y mae ymwybyddiaeth alcohol yn bwnc allweddol. Y mae rhai gwersi’n trin y pwnc yn uniongyrchol tra bod gan eraill alcohol yn sownd fel elfen hanfodol ynddynt. Disgrifir y gwersi isod: