Amrywiaeth sy’n disgrifio’r holl ffyrdd mae pobl yn wahanol.
Cydraddoldeb yw sicrhau fod gan bob un gyfleoedd cyfartal i wneud y gorau o’u bywydau a’u talentau.
Mae cydraddoldeb yn adnabod yn hanesyddol, fod gan ambell grŵp o bobl rhai nodweddion arbennig e.e. hîl, anabledd, rhyw neu rywioldeb, ac iddynt brofi gwahaniaethu.
Mae’r gyfraith yn ein diogelu rhag gwahaniaethu. Daeth Deddf Cydraddoldeb i rym 1 Hydref 2010.
Heddiw mae pawb ym Mhrydain wedi eu diogelu gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Am y tro cyntaf mae’n cyfuno’r holl ofynion ar gyfer y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, gan wneud deddfau cydraddoldeb yn symlach a haws i’w deall.
Mae Deddf Cydraddoldeb yn gosod allan yr amodau lle mae gwahaniaethu yn anghyfreithlon. Y naw nodwedd sy’n cael eu diogelu yw…
1. Oed…
yn cyfeirio at berson sy’n perthyn i oed arbennig (e.e. 8 mlwydd oed) neu amrediad o oedran (e.e. 11-18 mlwydd oed).
2. Anabledd…
pan fydd gan berson nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol hir-dymor ar eu gallu i wneud tasgau arferol pob ddydd.
3. Rhyw…
os ydych yn wrywaidd neu’n fenywaidd.
4. Ailbennu rhywedd…
yw’r broses o newid o un rhyw i un arall.
5. Priodas a phartneriaeth sifil...
Diffinwyd priodas fel ’uniad rhwng dyn a dynes’. Er hynny, ers 29 Mawrth 2014, bellach mae gan gyplau o’r un rhyw yn y DU hawliau cyfartal yn ôl y gyfraith i briodi. Cyn hyn, yr unig ddewis yn gyfreithiol oedd gan gyplau o’r un rhyw i gydnabod eu perthynas oedd drwy‘partneriaeth sifil’. Rhaid i bartneriaid sifil gael eu trin yn union fel cyplau sydd wedi priodi ar gyfer llawer o faterion cyfreithiol. Bellach, gall cyplau o’r un rhyw drosi eu partneriaeth sifil i fod yn briodas.
6. Beichiogrwydd a mamolaeth…
Beichiogrwydd yw’r cyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi. Mamolaeth yw’r cyfnod ar ôl yr enedigaeth. Amddiffynir rhag gwahaniaethu ar sail mamolaeth am gyfnod o 26 wythnos ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae hyn yn cynnwys trin y ferch yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo o’r fron.
7. Hîl…
gan gyfeirio at grŵp o bobl sydd wedi eu diffinio oherwydd eu hîl, lliw a chenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol.
8. Crefydd a chredoau…
yn gredoau crefyddol ac athronyddol gan gynnwys diffyg cred (e.e. anffyddiaeth). Yn gyffredinol, mae eich cred yn effeithio ar eich dewisiadau mewn bywyd neu’r ffordd mae rhywun yn byw.
9. Cyfeiriadedd rhywiol…
p’un a’i atyniad rhywiol person yw tuag at yr un rhyw neu at y rhyw arall neu at y ddau rhyw h.y. os ydyw’n syth, hoyw, lesbaidd neu’n ddeurywiol.
Os yw’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn canfod ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn wahaniaethol niweidiol neu’n gâs ar sail hîl,cyfeiriadedd rhywiol, cred, anabledd, rhyw ayyb. Gall hyn fod yn ddigwyddiad casineb neu hyd yn oed yn drosedd casineb.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
http://www.cps.gov.uk/news/fact_sheets/hate_crime/index.html
Cosb
Mae trosedd casineb yn gallu arwain i gosb o hyd at 6 mis yn amodol ar farn yr ynnad, neu os yr ystyrir yn waeth gall yr achos fynd i lys y goron ac arwain i ddedfryd o hyd at 10 mlynedd.