Ni all chwilio o dan PACE Côd A, Adran 23 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ac Adran 43 o Ddeddf Brawychiaeth 2000 gael ei wneud ddim ond os bydd gan y swyddog sail rhesymol i ddrwgdybio y byddant yn darganfod beth y maent yn chwilio amdano.
Nid yw chwilio o dan Adran 60 o’r Ddeddf Cyfiawnder am Droseddau a’r Drefn Gyhoeddus 1994 ac Adran 47A o Ddeddf Brawychiaeth 2000 yn mynnu bod gan y swyddogion ddrwgdybiaeth resymol y byddant yn dod o hyd i rywbeth.
Os na fydd eich plentyn yn cyd-fynd â disgrifiad rhywun a ddrwgdybir, y mae rhaid i swyddogion beidio â seilio eu rhesymau ar eu hymddangosiad, beth y maent yn ei wisgo neu’r ffaith eu bod wedi cyflawni trosedd yn y gorffennol. Byddai ymddangosiad yn cynnwys ffactorau fel oedran, anabledd, ailgyfeiriad rhyw, hil, crefydd/cred, rhyw neu gyfeiriad rhywiol.
Gall swyddogion yr heddlu chwilio pobl neu gerbydau o dan unryw un o’r grymoedd a restrir uchod. Gall Prif Gwnstabliaid ym mhob ardal heddlu ddewis un ai i roi grymoedd i’r Swyddogion Cefnogaeth Cymunedol Heddlu (SCCH) i wneud rhai mathau o atal a chwilio.
Cyn iddynt hwy neu eu cerbyd gael eu chwilio, y mae rhaid i’r swyddog gymryd pob cam rhesymol i sicrhau eu bod yn deall:
Bydd y swyddog yn ceisio cael eu cydweithrediad ar gayfer y chwilio, ond gall e ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
Fel arfer bydd chwilio yn digwydd yn agos i’r fan lle cawsant eu hatal.
Ni ddylai eich plentyn ddim ond cael ei gadw am gyhyd ag y bydd yn angenrheidiol i wneud y chwilio. Ni chaiff chwilio ar raddfa fawr gael ei wneud ond pan fydd amgylchiadau’n awgrymu ei fod yn angenrheidiol.
Gall y swyddog ofyn i’ch plentyn dynnu ei got, siaced neu fenig mewn man gyhoeddus.
Gall swyddog sydd yn eu chwilio o dan Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder am Droseddau a’r Drefn Gyhoeddus 1994 ofyn iddynt dynnu unrhywbeth, y mae e’n credu eu bod yn ei wisgo er mwyn cuddio eu hunaniaeth mewn man gyhoeddus.
Gall swyddog, sydd yn chwilio plant o dan Adran 47A o Ddeddf Brawychiaeth 2000, ofyn iddynt dynnu penwisg ac esgidiau mewn man gyhoeddus yn ogystal â’u cot, siaced a menig
Nid oes rhaid i swyddogion fod o’r un rhyw â nhw, ond byddant yn ymwybodol o hydeimledd diwylliannol ynghylch tynnu penwisgoedd a wisgir am resymau crefyddol.
Gall y swyddog ofyn iddynt dynnu mwy na chot uchaf, siaced neu fenig, ac unrhywbeth a wisgir am resymau crefyddol, fel sgarff wyneb, fêl neu dyrban, ond dim ond os byddant yn mynd â nhw i rywle sydd allan o olwg y cyhoedd.
Bydd chwilio, sydd yn cynnwys tynnu rhywbeth a wisgir am resymau crefyddol neu fwy na chot uchaf, siaced a menig, fel arfer yn cael ei wneud gan swyddog o’r un rhyw â nhw ac allan o olwg rhywun o’r rhyw arall.
Os chwilir eich pentyn/plant ac nid arestir nhw fel canlyniad, y mae ganddynt hawl i gael derbynneb, os na fydd amgylchiadau eithriadol, sydd yn ei wneud yn anymarferol i’r swyddog gofnodi’r chwiliad.
Y mae rhaid i’r swyddog gofnodi’r manylion canlynol:
Os byddant yn cael eu chwilio ond yna’n cael eu harestio a’u cymryd i orsaf heddlu, y mae rhaid i’r swyddog gofnodi manylion y chwiliad ar y cofnod caethiwed. Bydd hawl ganddynt o hyd gael copi o’r cofnod chwilio.
Dylai’r swyddog drin eich plentyn yn deg a chyda pharch. Os byddwch yn anhapus gyda sut y cawsant eu trin, medrwch gwyno. Bydd e’n helpu os byddwch yn cadw’r derbynneb a roddodd yr heddlu i’ch plentyn. Medrwch gael cyngor am sut i gwyno gan:
Yr unig nwydd â llafn neu bwynt y gallant ei gario mewn man gyhoeddus yw cyllell boced hyblyg ag ymyl dorri sydd ddim mwy na 3 modfedd. Y mae’n fater i’r llysoedd benderfynu beth a fasai’n nwydd â llafn neu sydd â blaen miniog.
Gallai cyllell hefyd fod yn arf ymosodol ar gyfer Deddf Atal Troseddau 1953, sydd yn gwahardd cario arfau ymosodol heb awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol. Y mae’n fater i’r llysoedd benderfynu beth y mae awdurdod cyfreithlon ac esgus rhesymol yn eu golygu.
Nid yw gwaharddiad cario nwydd â llafn neu bwynt mewn man gyhoeddus (adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder am Droseddau 1988) yn cynnwys cyllell boced hyblyg os nad yw ymyl dorri’r llafn yn fwy na 7.62 centimetr (3 modfedd).
Beth bynnag, o dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, gallai fod yn drosedd o hyd petai’r nwydd yn cael ei gario gan fwriadu achosi niwed.
Dylid nodi ei bod hi wedi cael ei phenderfynu fod cyllell glo ddim yn dod i mewn i ddosbarth cyllyll poced hyblyg (gwelir Llafnau ? cyllyll clo).
Gall meddiant cyllell aml-erfyn fod yn drosedd os bydd hi’n cynnwys llafn neu bwynt (ar wahân i gyllell boced hyblyg o lai na 3 modfedd), hyd yn oed os bydd offer eraill ar y teclyn (er enghraifft, tyrnsgriw neu agorwr tuniau) a allai fod o ddefnydd i berson mewn man gyhoeddus.
Yn ychwanegol, os bydd cyllell aml-erfyn yn cael ei chario gan fwriadu achosi niwed, yna gallai’r person a fyddai’n ei chario fod yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf atal Troseddu 1953.
Y mae Deddf Atal Troseddu 1953 yn gwahardd cario arfau ymosodol mewn mannau cyhoeddus heb awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol. Y mae’n fater i’r llysoedd benderfynu beth yw awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol.
Y mae’n amddiffyniad i berson, a gyhuddwyd o drosedd o dan adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder am Drosedd 1988, brofi fod ganddo fe neu ganddi hi reswm da neu awdurdod cyfreithlon i gael nwydd mewn man gyhoeddus.
Yn ychwanegol, y mae’n amddiffyniad i brofi fod y nwydd ar gyfer ei ddefnyddio yn y gwaith. Beth bynnag, y mae’n fater i’r llysoedd benderfynu a yw’r amddiffyniad yn gymwys mewn achos arbennig.
Daw cyllyll seramig i ddosbarth cyllyll llechwraidd ac felly y maent yn arf penodedig ar gyfer adran 141 o Ddeddf Cyfiawnder am Droseddau 1988. Y mae cyllyll seramig yn gyllyll llechwraidd gan eu bod nhw wedi cael eu 'gwneud o ddeunydd sydd ddim yn hawdd ei ganfod gan offer a ddefnyddir i ddarganfod metel'. Y mae’n drosedd cynhyrchu, mewnforio, gwerthu neu logi, neu gynnig ar werth neu ar log, datgelu neu feddiannu ar gyfer ei werthu neu ei logi, neu fenthyca neu roi i berson arall cyllell lechwraidd. Ni fasai cyllell seramig yn gyllell lechwraidd pe basai wedi‘i chynllunio ar gyfer ei defnyddio yn y cartref neu ar gyfer ei defnyddio i drin, paratoi neu fwyta bwyd neu fel tegan.
Gallant gael benthyg reiffl awyr a ffrwydron neu ddefnyddio reiffl awyr, heb oruchwyliaeth, ar dir preifat pan fyddant wedi cael caniatâd.
Ni fedrant brynu neu logi reiffl awyr, neu ffrwydron neu gael un yn anrheg. Y mae rhaid i’r reiffl awyr a’r ffrwydron gael eu prynu a’u gwarchod gan rywun dros 18 oed – fel arfer rhiant, gofalwr neu oedolyn cyfrifol arall.
Ni fedrant fediannu reiffl awyr mewn man gyhoeddus os na fyddant wedi’u goruchwylio gan rywun 21 oed neu fwy, ac heb esgus rhesymol am wneud felly (er enghraifft, tra eu bod ar eu ffordd i ganolfan saethu).
Medrant ddefnyddio reiffl awyr dan oruchwyliaeth ar dir preifat gyda chaniatâd y preswylydd - fel arfer y perchennog neu’r tenant. Y mae rhaid i’r goruchwyliwr fod o leiaf 21 oed.
Ni fedrwch brynu, llogi neu dderbyn reiffl awyr neu’i ffrwydron fel anrheg, neu saethu, heb oruchwyliaeth oedolyn.
Y mae rhaid i rieni neu ofalwr, sydd yn prynu reiffl awyr i’w ddefnyddio gan rywun dan 14 oed, ei reoli bob amser, hyd yn oed yn y cartref neu yn yr ardd.
A. Os bydd eich plentyn yn gwrthod cael ei chwilio neu os byddwch chi’n ei wrthwynebu, y mae hwn yn dwyn y perygl na fydd eich plentyn yn cael mynd i mewn i’r ysgol. Y mae gan ysgolion rym statudol a dyletswydd gofal i bawb sydd yn dod i mewn i’r ysgol.
A. O dan erthygl 8 o Gytundeb Ewropeaidd Hawliau Dynol y mae gan ddisgyblion hawl i barch am eu bywyd preifat. Yng nghyd-destun y grymoedd arbennig hyn, y mae hwn yn golygu fod gan ddisgyblion yr hawl i ddisgwyl lefel rhesymol o breifatrwydd personol.
Nid yw’r hawl dan erthygl 8 yn ddiamod, gellir ymyrryd â hi ond y mae rhaid i unrhyw ymyrraeth â’r hawl hon gan ysgol (neu unryw gorff cyhoeddus) gael ei chyfiawnhau a bod yn gymesur.
Y mae’r grymoedd i chwilio yn Neddf Addysg 1996 yn cydweddu ag erthygl 8. Ni ddylai ysgol, sydd yn defnyddio’r grymoedd hynny’n gyfreithlon, gael anhawster wrth ddangos eu bod hefyd wedi gweithredu yn unol ag erthygl 8. Bydd y cyngor hwn yn helpu ysgolion wrth iddynt benderfynu sut i ddefnyddio’r grymoedd chwilio mewn ffordd gyfreithlon.
www.opsi.gov.uk/acts/acts2010/ukpga_20100015_en_1
Ewch at y wefan isod ar gyfer golwg drylwyr ar Siarter Y Cenhedloedd Unedig Hawliau’r Plentyn
www.education.gov.uk/childrenandyoungpeople/healthandwellbeing/b0074766/uncrc