1. Pam y mae bwlio seiber yn wahanol i ffurfiau eraill o fwlio?
Y mae bwlio seiber yn un ffurf o fwlio ond achos ei fod yn defnyddio cyfathrebu digidol e.e. bod ar-lein neu ffonau symudol gall ddigwydd unrhyw bryd unrhyw le, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Os ydy eich plentyn yn cael ei fwlio yn yr ysgol, bydd y cartref yn dod yn lloches ddiogel lle na fydd eich plentyn mewn cysylltiad â’r bwlïaid ond gyda bwlio seiber gall darfu ar le personol y person ifanc gan ei wneud i deimlo dan fygythiad hyd yn oed gartref. Maent yn teimlo fod dim unman i guddio.
- Y mae’n bosibl bwlio seiber yn ddienw. Gall y bwli er enghraifft osod ffug-gyfrifon i guddio ei gyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (cyfeiriad IP/PR ) neu rwystro ei rif ffôn symudol.
- Pan fydd ffurfiau eraill o fwlio yn digwydd, fel arfer un person neu grŵp bach o bobl yw ef. Ar y llaw arall y mae bwlio seiber yn cynnwys llawer mwy o bobl y gellir eu cyrraedd yn gyflym drwy neges neu negeseuon ar-lein – gall y dioddefwr deimlo fod pobl yn heidio yn ei erbyn e.
- Gall bwlio seiber fod yn fwy tymor hir na ffurfiau eraill o fwlio achos unwaith y mae gwybodaeth ar y rhwydwaith, y mae’n amhosibl ei dynnu’n ôl ac nid oes rheolaeth gan y dioddefwr ar ble y mae’n mynd neu bwy a’i wêl.
- Gall fod yn ddifwriad achos efallai fod pobl ddim yn ystyried canlyniadau anfon negeseuon neu luniau.
2. Yr wyf yn defnyddio’r cyfrifiadur yn anaml iawn ond y mae fy mhlentyn yn treulio llawer o amser arno. Yr wyf yn poeni am hwn, beth allaf ei wneud?
Er mwyn darparu gwybodaeth gefndirol a’ch galluogi chi i wneud y mwyaf o fod ar-lein ac er mwyn gwella’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o gyfleoedd ar-lein, gallech gofrestru mewn dosbarth nos yn eich ardal neu ar y llaw arall cwblhau cwrs “webwise” BBC ar-lein ar www.bbc.co.uk/webwise/0/
Beth bynnag y mae’ch plentyn yn ei wneud ar-lein, mae angen i chi siarad â nhw a thawelu’ch pryderon a bydd hwn yn eich helpu chi i ddatblygu dealltwriaeth well o ddiddordebau’ch plentyn a dealltwrieth well o weithgareddau ar-lein. Gofynnwch iddynt ddweud wrthoch chi beth maent yn ei wneud ar-lein.
- Pa wefannau wyt ti’n eu defnyddio?
- Beth wyt ti’n gallu ei wneud ar y wefan honno?
- Beth wyt ti’n ei fwynhau am y wefan honno?
- Â phwy rwyt ti’n siarad?
- Ydy hon yn wefan rwyt ti’n ei defnyddio yn yr ysgol?
3. Pam y mae rhai pobl yn bwlio seiber?
Does dim ateb syml. Gall fod sawl rheswm pam y mae rhai pobl yn dewis achosi helbul i eraill drwy eu bwlio nhw:
- y mae rhai sy’n bwlio seiber yn meddwl na fyddant yn cael eu dal achos eu bod nhw’n anweledig
- yn aml y mae’r bobl sydd yn bwlio seiber, yn eiddigeddus, yn ddig neu eisiau dial ar rywun
- y mae pobl sy’n bwlio seiber yn meddwl fod eu gweithredoedd yn gwella’u delwedd. Maent yn credu, os byddant yn cael pobl eraill i chwerthin am ben rhywun arall mae’n gwneud iddynt edrych yn cŵl neu’n ychwanegu at eu poblogrwydd
- y mae rhai sy’n bwlio seiber yn ei weld fel math o adloniant, yn enwedig os ydynt yn ddiflas â gormod o amser rhydd gyda nhw
- i beri chwerthin neu dim ond i gael adwaith.
4. Beth yw sexting?
Sexting yw pan fydd rhywun yn anfon neu’n cael tecst, llun neu fideo sydd yn eglur rywiol ar eu ffôn symudol. Weithiau gall pobl ifanc, sydd yn fwy agored i bwysau cyfoedion gael eu hannog i dynnu lluniau ohonynt eu hunain yn noeth neu eu ffilmio eu hunain yn gwneud pethau na fyddent yn hapus petai pobl eraill yn eu gweld.
Unwaith y mae’r lluniau hyn wedi cael eu tynnu a’u hanfon at eraill, y mae’r crëwr yn colli rheolaeth arnynt a gallant ymddangos yn unrhyw le a chael eu gweld gan unrhyw un a hyd yn oed ymddangos ar YouTube wedi’u gwylio gan filoedd.
Y mae sexting yn anghyfreithlon yn y DU ac yn drosedd y gellir ei erlyn os ydynt yn lluniau/fideos o rywun dan 18.
5. Beth yw fraping?
Fraping yw pan fydd ffrind neu aelod o’r teulu yn ffugio mai eich plentyn ydynt ac yn defnyddio’u cyfrif Facebook i osod diweddariadau doniol neu sy’n creu embaras. I atal fraping, neu atal rhywun rhag dorri i mewn i enw eich plentyn, gwnewch yn siwr eu bod yn logio bant ar ôl defnyddio gwasanaethau fel e-bost, Pinterest, Amazon, Facebook, Twitter, Foursquare ayyb. Hefyd anogwch eich plentyn i ddefnyddio cyfrineiriau sydd yn anodd eu dyfalu, a byth i rannu rhain â’u ffrindiau.
6. Pa gyngor gaf i gynnig i’m plentyn i’w hamddiffyn nhw wrth iddynt ddefnyddio’r Rhyngrwyd?
Dyma rai o’r rheolau sylfaenol y dylech chi annog i’ch plentyn ddilyn, pan yn defnyddio’r Rhyngrwyd.
- Peidio â defnyddio eu henwau go iawn mewn ystafell sgwrsio, ar eu cyfrif negesydd di-oed neu fel rhan o’u cyfeiriad e-bost.
- Peidio â defnyddio llun ohonynt eu hunain fel ymgnawdoliad ar seiat holi.
- Sôn am unrywbeth a ddarllenant, a welant neu a dderbynant ar-lein sydd yn gwneud iddynt deimlo’n anghysurus i chi fel rhiant neu ofalwr neu rywun arall y maent yn ymddiried ynddynt. Os byddant wedi bod yn cael negeseuon/cynnwys rhywiol,anaddas, gallwch sôn am hwn i’r Child Exploitation and Online Protection Centre (CEOP): www.ceop.police.uk/Ceop-Report
- Gallai eich plentyn hefyd siarad â rhywun ar ChildLine.
7. Y mae fy mhlentyn yn 12 ac eisiau agor cyfrif Facebook, a ddylwn adael iddi hi?
Mewn gwirionedd y mae Facebook a nifer o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill yn amodi fod rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 a mwy er mwyn gosod cyfrif. Fodd bynnag, y mae llawer o blant yn ymgofrestru i Facebook drwy honni eu bod nhw’n hŷn. Yn aml mae’n anodd atal plentyn rhag cofrestru, ac os byddant,efallai y byddant yn mynd tu ôl i’ch cefn. Os byddwch yn ildio i’r syniad y basai’n well i chi fod ynghlwm drwy helpu’ch plentyn i gofrestru fel na fyddant yn rhoi gwybodaeth bersonol, gosodwch y trefniannau preifatrwydd fel ‘ffrindiau’n unig’ a gwnewch yn siwr mai ffrindiau y byd go iawn ydynt. Cyfyngwch ffrindiau sy’n oedolion i’r teulu’n unig. Yn olaf peidiwch â gadael i’ch plentyn fod yn hŷn na 13 achos fod trefniannau diogelwch ar wahân gan Facebook ar gyfer defnyddwyr ifancach. Trafodwch gyda nhw beth allai fynd o chwith e.e. bwlio ayyb. Ac anogwch nhw i ddweud wrthoch chi os bydd rhywbeth ar y safle yn eu gwneud yn anhapus a sut i sôn amdano ar y safle.
8. Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn cael ei fwlio seiber?
- Gwneud yn siwr fod eich plentyn yn ymwybodol o fwlio seiber.
- Esbonio i’ch plentyn fod bwlio seiber yn ddifrifol iawn a bod neb â’r hawl i’w gwneud i deimlo felly. Cael nhw i siarad amdano gan fod siarad amdano yn helpu.
- Bod yn ymwybodol o weithgareddau’ch plentyn ar y Rhyngrwyd.
- Ceisio deall cysylltiadau digidol a ddefnyddia’ch plentyn. Ystyried ymuno â dosbarth nos lleol.
- Cynghori’ch plentyn:
- I ddangos negeseuon sarhaus a dderbynant i chi
- Byth i ymateb i negeseuon sarhaus – gwnaiff y sefyllfa’n waeth
- Siarad ag athrawon yn ysgol eich plentyn os bydd plant eraill ynghlwm wrth y peth.
- Cadw copi o unryw decstiau,e-byst,negeseuon sarhaus a dderbynant a nodi’r dyddiad ac amser yr anfonwyd nhw. Gyda bwlio seiber y mae trywydd bob amser.
- Cysylltwch â’r darparwr gwasanaeth neu rwystrwch y bwli seiber.
- Os bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar eich plentyn gallant siarad â ChildLine.http://www.beatbullying.org/
9. Yr wyf wedi dod ar draws gwefan faleisus sydd â’i unig bwrpas i achosi sarhâd. Beth allaf ei wneud amdano?
Cysylltwch â’r Heddlu. Gall yr Heddlu geisio cau’r wefan i lawr a dod o hyd i’r person cyfrifol. Y mae pob e-bost a gwefan yn cynnwys trywydd a all ddangos y cyfrifiadur a ddefnyddiwyd i’w creu o’r enw cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (cyfeiriad IP), fel ei bod bron yn amhosibl i’r troseddwr aros yn ddienw.
10. Sut gallaf annog fy mhlentyn i beidio â bod ynghlwm wrth Fwlio seiber?
Siaradwch â’ch plentyn am y pwysau emosiynol i’r dioddefwr a achosir gan fwlio seiber. Cynghorwch nhw y dylent drin eraill fel yr hoffent gael eu trin eu hunain,pa un ai ar-lein neu beidio. Pe na fasent yn ei ddweud wyneb i wyneb, ni ddylent ei ddweud ar-lein. Os ydynt yn ymwybodol o rywun yn cael ei fwlio seiber, dylent:
- wrthod anfon ymlaen negeseuon bwlio seiber neu luniau neu sarhad am berson gan fod hwn yn gallu wir ofidio’r person
- fod yn ymwybodol fod edrych ar neu anfon ymlaen y negeseuon,lluniau neu’r sarhadau hyn yn golygu eu bod nhw’n cyfrannu at fwlio seiber ac efallai eu bod nhw’n cyflawni trosedd
- ddweud wrth ffrindiau i beidio â bwlio seiber
- rwystro cysylltiadau â’r bwlïaid seiber
- sôn amdano. Eu dyletswydd yw hwn e.e. i oedolyn yr ymddiriedir ynddo neu ddefnyddio’r botwm adrodd ar y wefan neu fotwm adrodd sarhad CEOP.