Cam-drin Domestig a’r Gyfraith
Diffinir cam-drin domestig fel unrhyw ddigwyddiad(au) neu batrwm o orfodaeth neu ymddygiadau bygythiol, trais neu gam-driniaeth rhwng oedolion 16 oed neu hŷn, sydd neu sydd wedi bod yn bartneriaid clos, yn canlyn neu’n aelodau o’r teulu beth bynnag bo’u rhyw neu eu rhywioldeb.
(Mawrth 2013)
Mae’n bwysig sylweddoli fod cam-drin domestig yn anghyfreithlon.
Mae’r Heddlu yn ei ystyried yn ddifrifol ac mae ganddynt gyfundrefnau cefnogi i ddelio â’r digwyddiadau.
Mae’r troseddau yn cynnwys:
Mae ymosodiad yn weithred bwriadol sy’n achosi i berson ddioddef grym anghyfreithlon neu drais personol.
Gall geiriau neu ystymiau neu fygythiadau fod yn gyfystyr ag ymosodiad.
Os yw trais yn cael ei fygwth yna mae’n rhaid bod y gallu i wireddu’r bygythiad yn bod.
Nid oes rhaid i ymosodiad gynnwys grym ac fe all amrywio mewn difrifoldeb.
Mae ymosodiad cyffredin a tharo yn droseddau penodol ( Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988) e.e. poeri, cam-drin emosiynol.
Ymosodiad sy’n achosi gwir niwed corfforol (rhan 47 o Ddeddf Troseddau Yn Erbyn Y Person 1861) e.e. llygaid du, mân gleisiau a briwiau.
Niwed corfforol difrifol (Rhan 18 o Ddeddf Troseddau Yn Erbyn Y Person 1861) e.e. torri esgyrn.
Dywed Rhan 1 o Ddeddf Diogelu Rhag Aflonyddu 1977, na ddylai person ymddwyn mewn ffordd sy’n cael ei gyfrif fel aflonyddu ar berson arall.
Stelcian
Cyflwynwyd deddf stelcian newydd o fis Tachwedd 2012.
Seibrstelcian yw’r drosedd o anfon negeseuon maleisus drwy y Rhyngrwyd. Gellir delio â hyn drwy gyfraith sifil a throseddol. Mae’r Heddlu wedi defnyddio’r Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu yn llwyddiannus i erlyn rhai fu’n gyfrifol am anfon negeseuon maleisus drwy’r Rhyngrwyd. Mae’r fath negeseuon hefyd yn drosedd dan Ddeddf Cyfathrebu Maleisus.
Gall y drosedd olygu cosb o hyd at chwe mis mewn carchar a/neu ddirwy.
Troseddau trefn gyhoeddus
Mae Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 yn cynnwys amryw o droseddau gan gynnwys:
Mae’n drosedd i ddefnyddio iaith neu ymddygiad sy’n bygwth, cam-drin neu’n sarhau er mwyn i’r dioddefwr gredu y defnyddir grym anghyfreithlon gan y diffynydd tuag ato/ati neu berson arall.
Beth am y plant?
Mewn tua hanner yr holl ddigwyddiadau o gam-drin domestig bydd plant hefyd yn dioddef niwed neu’n cael eu cam-drin. Cydnabyddir fod plant sy’n byw mewn cartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd yn cael eu hadnabod fel rhai “mewn perygl” dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002; ers 31 Ionawr 2005 mae Rhan 120 o’r Ddeddf wedi ymestyn y diffiniad o niweidio plant i gynnwys y niwed a wneir drwy glywed neu weld cam-driniaeth o eraill.
Diogelu plant ac oedolion bregus
Mae gan yr Heddlu gyfrifoldeb i ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed ac i hyrwyddo eu lles.
Dywed Rhan 11 o Ddeddf Plant, 2004, fod gan yr Heddlu bwerau argyfwng i fynd i mewn i eiddo ac i gynnig diogelwch brys i blant y credir sy’n dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol.
Mae gan Uned Ymchwilio Cam-drin Plant (UYCP) hefyd rôl allweddol i ddiogelu plant.
Gweithio gyda’n gilydd i amddiffyn plant
Mae swyddogion yn gweithio gydag amryw o bartneriaid i ddiogelu plant, er enghraifft, partneriaid cymunedau diogel, timau atal cyffuriau, Cynhadledd Asesiad Risg Aml-Asiantaeth (MARAC) ac Asiantaeth Trefnu Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA).
Mae lluoedd yr Heddlu yn gweithredu cynllun i adnabod troseddwyr rhyw, sy’n caniatau i unrhyw un ofyn i’r heddlu wneud ymholiadau am unigolion penodol sydd mewn cyswllt â phant.
Os y canfyddir fod gan unigolyn euogfarnau am drosedddau rhyw yn erbyn plentyn datgelir asesiad risg i berson sydd orau i ddiogelu’r plentyn hwnnw.
Mae aelodaeth y Bwrdd Lleol i Ddiogelu Plant (BLDP) a osodwyd allan yn Neddf Plant 2004 yn cynnwys yr Awdurdod Lleol, yr Heddlu ac eraill. Amcan y byrddau hyn yw cyd-gordio yr asiantaethau sy’n diogelu a hyrwyddo lles plant.
Priodas dan orfod
Mae gorfodi rhywun i briodi yn drosedd yn Lloegr a Chymru ers 14 Mehefin 2014.
Mae diogelwch sifil dan Orchymyn Diogelwch Priodas Dan Orfod yn parhau ochr yn ochr â’r gyfraith troseddol newydd.