Nid yw magu plant yn hawdd!
Nid oes un ffordd gywir o fagu plant. Nid oes y fath beth a rhiant perffaith na phlentyn perffaith. Dyma rhai canllawiau i helpu plant i dyfu’n iach a hapus:
Dywedwch wrth eich plant :”‘Rwyn dy garu. ‘Rwyt yn arbennig i mi” Rhowch lawer o gofleidio a chusanau.
Drwy wrando ar eich plentyn mae’n dod i ddeall eich bod yn credu ei fod yn bwysig a’ch bod yn cymryd diddordeb yn yr hyn sydd ganddo i’w ddweud.
Cysurwch hwynt pan maent ofn neu’n boenus. Dywedwch wrthynt sut y byddwch yn eu hamddiffyn a’u helpu.
Pan fydd eich plant yn dysgu rhywbeth newydd neu’n ymddwyn yn dda, dywedwch eich bod yn falch ohonynt. Canmolwch hwy am y pethau bychain.
Trefnwch amseroedd arferol i brydau teuluol ac amser gwely. Os bydd rhaid newid y patrwm arferol dywedwch wrth eich plentyn ymlaen llaw. Maent yn hoffi gwybod beth i’w ddisgwyl.
Bydd eich plant yn mwynhau eich cwmni. Mae’n hwyl i ddarllen, mynd am dro a chwarae gemau gyda’ch gilydd. Mae eich plant angen eich sylw. Yn aml, mae ymddygiad gwael yn ymdrech i fynnu eich sylw.
Pan fydd eich plentyn yn gwneud camgymeriad, eglurwch beth wnaeth yn anghywir. Er enghraifft, dywedwch, “Mae rhedeg i’r ffordd heb edrych yn beryglus”. Yna dywedwch wrth eich plentyn y dylai fod wedi: “ Yn gyntaf edrych y ddwy ffordd am foduron”
Gall hyn fod yn anodd i bob un ohonom. Dylai’r rheolau fod yn glir a chyson.( Mae cyson yn golygu bod y rheolau yr un fath bob tro) Os bydd dau riant yn magu plentyn , mae’n rhaid i’r ddau ddefnyddio’r un rheol. Yn ogystal, sicrhau fod pwy bynnag arall sy’n ei warchod, yn dilyn rheolau’r teulu.
Mae yna lawer o ffyrdd o gael cyngor rhiantu da. Ymunwch a dosbarth rhiantu a gynigir gan ysbytai, canolfannau cymunedol ac ysgolion. Darllennwch lyfrau neu gylchgronau ar riantu. Siaradwch gyda’ch meddyg teulu. ymwelydd iechyd neu weinidog, offeiriad neu gwnselydd/ cynghorydd.
Gallwch ofyn i’ch meddyg am gymorth i riantu. Nid gwaith hawdd yw magu plant- mae yna lawer o gyfrifoldebau ac ni all unrhyw un ei wneud ar ei ben ei hun. Gall eich meddyg eich cyfeirio i grwpiau cymorth, asiantaethau a phobl proffesiynol sy’n eich helpu gyda materion megis, defnyddio’r poti, problemau bwyta ac amser gwely.