Fel rhan o Raglen Graidd Cyswllt Ysgol Cymru Gyfan annogir disgyblion i ystyried beth sy’n digwydd pan fydd trais yn nodwedd o rhai perthnasoedd ac i sicrhau na fyddant hwy yn destun trais. Fel rhieni, mae ein pryderon am iechyd a lles ein plant o’r pwys mwyaf.Mae’r pryder yma yn ymestyn i’w perthnasoedd gydag eraill yn ogystal a’u profiadau oddi mewn i’w teuluoedd. Yng Nghymru yn 2010 ‘roedd 4,782 o blant a phobl ifanc yn gysylltiedig ag achosion o gam-drin domestig. Mewn ffaith, gosodwyd 2,700 o blant (gan gynnwys rhai nad oeddynt wedi eu geni) ar gofrestrau amddiffyn plant ym Mawrth 2010.
Mewn sefyllfa lle mae’r cam-drin yn digwydd yn y cartref mae’r plant a’r pobl ifanc yn cael eu hadnabod fel dioddefwyr.
Bydd y plant hyn yn cael eu hamddiffyn drwy gyfreithiau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant a’u diogelu.
Gall unrhyw berson fod yn ddioddefwr cam-driniaeth beth bynnag fo ei oed, rhyw, hil,eithnigrwydd, rhywioldeb, grŵp crefyddol, dosbarth, anabledd neu ffordd o fyw.
Diffinir cam-drin domestig fel;
unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o orfodaeth neu ymddygiadau bygythiol, trais neu gam-drin (seicolegol,corfforol,rhywiol,arianol neu emosiynol) rhwng oedolion 16 oed neu hŷn, sydd neu sydd wedi bod yn bartneriaid clos, yn canlyn neu’n aelodau o’r teulu beth bynnag bo’u rhyw neu eu rhywioldeb.
Mae cam-drin domestig yn gyffredin iawn. Mae mwy nag un merch ym mhob pedair (28%) a thua un dyn ym mhob chwech (16%) wedi profi rhyw fath o gam-drin domestig ers iddynt fod yn 16 oed. Nid digwyddiad unwaith ac am byth ydyw. Mae’n digwydd yn aml ac yn gyson.