Gall yr Heddlu eich helpu. Gallwch ddeialu 999 mewn argyfwng. Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Cam-driniaeth Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan 0808 80 10 800 neu drwy ymweld â www.allwaleshelpline.org.uk.
Mae yna lawer o sefydliadau yn barod i helpu.
Gellir. Gellir cam-drin unrhyw berson sydd mewn neu wedi bod mewn perthynas glos neu’n aelod o deulu. Waeth beth fo’ch sefyllfa - yn wr neu’n ferch, beth bynnag eich crefydd, yn anabl neu beidio, yn hoyw, lesbaidd, deurywiol neu’n drawsrywiol neu sut deulu y tarddwch ohonno - gall unrhyw un fod yn ddioddefwr o gam-driniaeth neu drais.
Mae cam-driniaeth domestig yn annerbyniol mewn unrhyw berthynas, crefydd neu ddiwylliant.
Gall plant gael eu heffeithio gan gam-driniaeth domestig hyd yn oed os y credwch nad ydynt yn ei weld. Gall y profiad o gamdriniaeth achosi dryswch, euogrwydd, gofid, diymadferthedd, ynysu a phoen.
Bydd bechgyn yn arbennig yn dangos eu dicter oherwydd eu anallu i ddiogelu’r dioddefwr.
Gall y plant eu hunain fod mewn perygl o drais. Bydd llawer o blant yn ffugio salwch er mwyn aros gartref i ddiogelu’r dioddefwr neu i geisio ymyrryd, yn aml yn rhoi eu hunain mewn perygl. Mae plant yn cael eu diogelu drwy gyfraith a chyfundrefnau amddiffyn. Mae llawer o help a chynhaliaeth ar gael.
Mae gan ysgolion a sefydliadau addysg ddyletswydd i ofalu am ddiogelwch a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc (Deddf Addysg, 2002, Adran 175).
Bydd gan ysgol eich plentyn gyfundrefnau er mwyn gweithio gydag asiantaethau eraill sy’n gweithredu ym maes cam-driniaeth domestig. Mae gan pob ysgol yng Nghymru gefnogaeth Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgol sy’n cyfrannu i atal a chodi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion sy’n ei dro yn helpu’r ysgol i newid agweddau, i ddylanwadu ar ymddygiad yn ogystal a datblygu sgiliau a galluoedd hanfodol er mwyn hyrwyddo lles y plant.Gall y Swyddog Heddlu gefnogi'r ysgol petai plentyn yn gwneud datgeliad.
Mae yna bethau ymarferol gall yr ysgol ei wneud i’ch helpu chi a’ch plentyn. Dylent:
Os bydd rhaid i blentyn symud ysgol bydd yr ysgol yn:
Bydd cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn helpu i greu ethos ysgol bositif, lle mae’r disgyblion yn profi awyrgylch ddiogel i ddysgu a chael y cyfle a’r hyder i rannu eu pryderon gydag eraill. Os bydd ganddoch chi bryderon yna siaradwch gyda’r Pennaeth, Fe wrandewir arnoch.