Poenladdwyr
Poenladdwyr dros y cownter
Gwybodaeth gyffredinol
Gall poenladdwyr dros y cownter a gymerir gan filiynau o bobl ddod yn gaethiwus o fewn ychydig ddyddiau o’u defnyddio, yn ôl rhybudd gan Asiantaeth Meddyginiaethau’r Llywodraeth.
Mae cyfyngiadau newydd yn cael eu cymhwyso i feddyginiaethau sy’n cynnwys Codeine, yn cynnwys Nurofen Plus a Solpadeine a werthir dros y cownter ac a ddefnyddir yn arferol er mwyn lleddfu cur pen, problemau gyda’r cefn a phoen misglwyf. Bydd rhybuddion clir yn cael eu rhoi mewn mannau amlwg ar flaen pecynnau a thaflenni a ddaw gyda hwy ar gyfer cleifion yn datgan: 'Can cause addiction; for three days use only.'
Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod rhagor na 30,000 o ddefnyddwyr wedi dod yn gaeth i’r cyffuriau, llawer ar ddamwain, gyda’r risg mwyaf o ddatblygu caethiwed ymhlith menywod. Mae’r pryder cynyddol ynglŷn â lledaeniad yr hyn a ddisgrifir gan arbenigwyr fel caethiwed cudd wedi arwain yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) i gyhoeddi cyfres o gamau i wrthsefyll y broblem.
Caiff maint paced ei gyfyngu i 32 tabled, gyda phecynnau mwy dim ond ar gael drwy bresgripsiwn mewn ymgais i atal camddefnydd. Ni fydd hysbysebu newydd yn gallu datgan mwyach bod y cyffuriau yn feddyginiaeth ar gyfer peswch ac annwyd ac fe’i targedir at boen aciwt a chymedrol. Bu pryder ynglŷn â thwf mewn marchnad prynu swmp ar y moddion hyn ar y rhyngrwyd gyda chleifion a meddygon yn gwbl anymwybodol o’r peryglon.
Caiff tua 27 miliwn o dabledi dros y cownter sy’n cynnwys codeine eu gwerthu bob blwyddyn mewn marchnad poenladdwyr gwerth £500 miliwn. Credir mai menywod sydd â’r perygl mwyaf o fynd yn gaeth.
Effeithiau
- Lliniaru poen pan y’u defnyddir yn unol â’r cyfarwyddiadau
Risgiau
- Mynd yn gaeth
- Gorddosio
- Niwed i’r afu
- Cur pen
- Iselder
- Problemau gyda’r stumog a cherrig y bustl
Dosbarth
Di-ddosbarth