Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Popwyr

Popwyr (Amyl Nitrad, Butyl Nitrad, Isobutyl Nitrad)   

Enwau ar y stryd

Amyls, kix, Liquid gold, Ram, Rock hard, Rush, Thrust, TNT

Gwybodaeth gyffredinol

Ceir Popwyr fel arfer ar ffurf cemegyn hylif (nitrad) a werthir mewn potel fechan. Yn gyffredinol, Amyl nitrad yw’r cemegyn. Mae nitradau eraill tebyg i amyl nitrad (a butyl nitrad a isobutyl nitrad) wedi cael eu defnyddio hefyd. Mae nitradau yn ymagor y pibellau gwaed ac yn caniatáu i ragor o waed i gyrraedd y galon. Cânt eu ffroeni yn uniongyrchol o’r botel ac mae ganddynt arogl chwerw cryf.

Effeithiau

Mae gan Popwyr (nitradau) ystod o effeithiau:

  • Maent yn rhoi rhuthr i’r pen sy’n para ychydig funudau
  • Gwell profiadau rhywiol
  • Llosgiadau cemegol i feinwe’r corff - gyda brech yn datblygu o amgylch y trwyn a’r geg, a/neu lid yn y trwyn a’r gwddf
  • Gallant adael rhai pobl yn teimlo’n sâl neu mewn llewyg gyda chydsymud gwael
  • Marw – os cânt eu llyncu; neu os cânt eu defnyddio gan unigolion sydd â phroblemau’r galon

Risgiau

  • Mae cymryd Popwyr yn gallu bod yn beryglus i unrhyw un gyda phroblemau’r galon, anaemia neu glawcoma (clefyd ar y llygad)
  • Gallant achosi i’ch pwysedd gwaed ostwng i lefel beryglus. Ni ddylech felly eu cymryd os oes gennych broblem gyda’ch pwysedd gwaed, neu os ydych ar feddyginiaeth pwysedd gwaed, neu os ydych yn cymryd Viagra
  • Gallwch farw o ganlyniad i niwed i gelloedd coch y gwaed a llai o gyflenwad ocsigen i organau hollbwysig
  • Gallech fynd yn anymwybodol a marw drwy dagu ar eich chwŷd eich hun
  • Gall defnyddio Popwyr gydag alcohol gynyddu’r risg hwn
  • Cysylltir Popwyr gydag ymddygiad rhywiol llawn risg a gall arwain at ddal clefyd a drosglwyddir yn rhywiol
  • Gallant losgi eich croen wrth ei gyffwrdd a gallant eich lladd os byddwch yn eu llyncu
  • Maent yn fflamadwy iawn
  • Gallant achosi cyfog, cur pen a cholli synnwyr cyfeiriad
  • Soniwyd am ‘sudden sniffing death syndrome’ angheuol o ganlyniad i rythm afreolaidd y galon wrth gymryd poppers
  • Tymor hir:  Cur pen am gyfnodau hir, cyfradd curiad y galon is, pwysedd gwaed isel

Dosbarth

Di-ddosbarth