Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Cloud 9 (MPDV)

MPDV (Methylenedioxypyrovalerone) 

Enwau ar y stryd

Cloud 9, MTV, Magic, Maddie, Black Rob, Super Coke, PV and Peeve, Ivory Wave, Ivory Snow, Ocean Magic, Vanilla Sky, White Dove, White Knight, White Lightning, Hurricane Charlie, Fake Cocaine , Complete Crank.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae MPDV yn gyffur seicoweithredol gydag elfennau symbylol. Fe’i datblygwyd ym 1969 a pharhaodd yn symbylydd anadnabyddus hyd tua 2004 pan gafodd ei werthu, yn ôl yr hanes, fel cyffur gwneud. Mae MPDV yn symbylydd cryf iawn a dywedir ei fod yn achosi cymhelliant cryf i ‘ail-ddosio’ â rhagor o’r cyffur. Powdwr melynwyn, grawn mân, diarogl yw MDPV gyda chanlyniadau tebyg i Gocên ac Amffetaminau sy’n para 3-8 awr, yn dibynnu ar y dos a gymerwyd. Gellir ei gymryd drwy’r geg neu drwy chwistrelliad, ei ysmygu neu ei ffroeni. Mae’r cyffur ar gael ar wefannau, ac fe’i hysbysebir fel ‘not for human consumption’.

Effeithiau

  • Ewfforia
  • Mwy effro a mwy ymwybodol
  • Mwy effro ac yn llawn cyffro
  • Mwy o egni a chymhelliant
  • Ysgogiad meddyliol/cynnydd mewn canolbwyntio
  • Gallu gwell i gymdeithasu
  • Rhithweledigaethau gweledol a chlywedol
  • Ysgogiad rhywiol/effeithiau affrodisiag
  • Effeithiau empathogenig mwyn
  • Lleihad yn y canfyddiad o angen am fwyd a chwsg.

Risgiau

  • Cynnydd mewn pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon
  • Poenau yn y frest
  • Tymheredd corff uwch
  • Cynnwrf
  • Paranoia a rhithdybiau eithafol
  • Ymosodiadau panig
  • Meddyliau hunanladdol
  • Mynd yn gaeth iddo
  • Cyfog, crampiau yn y stumog
  • Methiant yr arennau
  • Ymennydd yn chwyddo
  • Strôc
  • Coma a marwolaeth.

Dosbarth

Di-ddosbarth