Sylweddau Anweddol
Sylweddau Anweddol
Enwau ar y stryd
Erosôls, Chroming, Dusting, Nwy,Nwyon, Arogli glud, Glud, Huffing, Inhalants, Nwy chwerthin, Ocsid nitraidd, Petrol, Toddyddion, Tooting
Gwybodaeth gyffredinol
Mae sylweddau anweddol yn cynnwys ystod eang o gynhyrchion, megis nwyon, gludion ac erosôls. Bydd gan y cynhyrchion a gamddefnyddir i gyd ddefnydd o ddydd i ddydd cyfreithlon, sy’n golygu y gellir cael gafael arnynt yn hawdd.
Pan y’u mewnanedlir, caiff sylweddau anweddol effaith debyg i Alcohol, gan wneud i bobl fod yn llai swil, ewfforig a chwil. Ond gall yr effaith a gânt ar y galon achosi marwolaeth, hyd yn oed os mai tro cyntaf y defnyddiwr ydyw. Gelwir hyn yn ‘Sudden Sniffing Death’.
Yn aml gelwir camddefnyddio sylweddau anweddol yn VSA neu VSM. Mae rhwng 50 a 100 achos o farwolaeth o ganlyniad i ddefnyddio toddyddion a sylweddau anweddol eraill bob blwyddyn. Mae bron y cyfan o’r rhain drwy ddefnydd tymor byr ac mae mwyafrif llethol o’r rhai sy’n marw yn eu harddegau.
Mae rhai o’r marwolaethau o ganlyniad i ffroeni’r sylwedd neu chwistrellu’r sylwedd yn uniongyrchol i gefn y geg. Gall y dechneg hon achosi peswch ac mae wedi arwain at drawiad ar y galon. Mewn rhai achosion mae pobl ifanc wedi gorchuddio eu pen gyda bag plastig yn cynnwys gludion neu doddyddion ac wedi mygu.
Effeithiau
- Mae sylweddau anweddol yn iselyddion, felly maent yn arafu adweithiau eich corff
- Gallant bylu eich synhwyrau, fel Alcohol yn gwneud i berson deimlo wedi meddwi
- Teimlo’n chwil, breuddwydiol, pwl o chwerthin, a gall fod yn anodd meddwl yn rhesymol
- Chwydu a llewygu
- Yn dibynnu ar y sylwedd, gall arwain at frech lliw coch o amgylch y geg a difrod i leinin eich trwyn a’ch llwybrau anadlu
- Newid mewn hwyliau, ymddygiad ymosodol a rhithweledigaethau
- Wedi eu defnyddio bydd pobl yn cwyno eu bod yn dioddef pen mawr, cur pen difrifol, teimlo’n isel a blinder.
Risgiau
- Gan fod sylweddau anweddol ar gael yn hawdd fel cynhyrchion ar gyfer y cartref, cred rhai pobl eu bod yn ddiogel i’w defnyddio, ond nid ydynt. Rhwng 2000 a 2008, lladdodd camddefnydd sylweddau anweddol fwy o bobl ifanc 10-15 oed nac a wnaeth yr holl gyffuriau anghyfreithlon gyda’i gilydd, oherwydd gallant ladd y tro cyntaf y cânt eu defnyddio
- Effeithio ar y gallu i bwyso a mesur, mae gwir berygl o wneud rhywbeth peryglus
- Mae chwistrellu cynhyrchion nwy i lawr y gwddf yn beryglus iawn gan ei fod yn gwneud i’r gwddf chwyddo a gall hyn gyfyngu ar eich anadlu neu eich atal rhag anadlu
- Maent yn arafu’r galon a gallant achosi trawiad y galon
- Mae rhai defnyddwyr wedi marw drwy basio allan a thagu ar eu chwŷd eu hunain
- Perygl o fygu os ydych yn mewnanadlu o fag plastig dros eich pen
- Bydd defnydd rheolaidd yn gwneud difrod i’ch ymennydd, cyhyrau, afu ac arennau
- Mae damweiniau yn llawer mwy tebygol os ydych yn defnyddio toddyddion
- Mae llawer o sylweddau anweddol yn fflamadwy, felly ceir risg o losgi a ffrwydradau, yn arbennig pan gyfunir hwy gydag ysmygu
- Gall cymysgu sylweddau anweddol gydag Alcohol gael canlyniadau difrifol, gan y cynyddir yr effeithiau a hefyd y perygl o farw
Dosbarth
Di-ddosbarth
Mae’n anghyfreithlon i fanwerthwyr yng Nghymru a Lloegr werthu sylweddau anweddol i unrhyw un o dan 18 oed y maent yn amau sydd am eu defnyddio i’w ffroeni/ mewnanadlu.