Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Tybaco

Tybaco Nicotin

Enwau ar y stryd

Tybaco, Sigarets, Baccy, Ciggies, Ffags, Bifters, Rollies, Snuff, Smôc, Snout

Gwybodaeth gyffredinol

Daw Tybaco o ddail y planhigyn tybaco. Mae’n cynnwys cyffur o’r enw Nicotin, sy’n hynod gaethiwus, a’r Nicotin sy’n rhoi’r 'hit' i ysmygwyr.

Mae ysmygu unrhyw gyffur yn ei gael i’ch ymennydd yn gyflym. Pan fydd ysmygwr yn mewnanadlu, bydd y Nicotin yn cyrraedd yr ymennydd mewn tua 8 eiliad. Dywed ysmygwyr rheolaidd ei fod yn eu helpu i ymlacio, yn lleihau pryder ac yn eu gwneud i deimlo’n llai llwglyd.

Ers mis Hydref 2007 mae wedi bod yn anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un dan 18 oed yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynhyrchion megis sigaréts, sigârs, tybaco rholio eich hun, pibellau/cetyn a phapurau rholio.

Effeithiau

  • Teimlo wedi ymlacio, lleihau pryder
  • Ysmygwyr yn teimlo’n llai llwglyd
  • Bydd ysmygwyr y tro cyntaf yn aml yn teimlo’n sâl a phen ysgafn
  • Gall ysmygu wneud i’ch dillad ddrewi
  • Mae ysmygwyr yn fwy tebygol o gael peswch a heintiau ar y frest
  • Mae Nicotin yn cyflymu cyfradd y galon ac yn cynyddu pwysedd gwaed.

Risgiau

  • Gall ysmygu achosi difrod difrifol i’ch iechyd - mae ysmygu yn ffactor risg ar gyfer emffysema, trawiadau ar y galon, strôc a chanser yr ysgyfaint
  • Goddefedd
  • Anafiadau llosgi o ganlyniadau i danau a ddechreuir yn ddamweiniol
  • Mae ysmygu gan ddefnyddio pibell/cetyn/shisha yn peri yr un risgiau a phroblemau iechyd ag a geir drwy ysmygu sigarét
  • Gallai pobl eraill sy’n anadlu eich mwg gael anawsterau anadlu, asthma neu ganser yn y pen draw
  • Dibyniaeth, broncitis, clefyd y galon, difrod i gylchrediad y gwaed, canserau (ysgyfaint, gwddf, tafod)
  • Gall ysmygu tybaco tra’n feichiog arwain at niwed i’r ffoetws a phwysau geni isel
  • Amcangyfrifir bod ysmygu yn cyfrannu at 120,000 o farwolaethau cyn pryd yn y DU bob blwyddyn
  • Mae ysmygu wedi ei gysylltu i orfod torri 2,000 o freichiau/coesau i ffwrdd bob blwyddyn

Dosbarth

Di-ddosbarth

Mae’n anghyfreithlon i werthu tybaco i rai dan 18 oed