Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

2CI – 2CE

Enwau ar y Stryd

Tripstacy, T-7, Seventh Heaven, Blue Mystic, 7-Up, 2CT, 2CI, Smiles, 2CE, 2CB

 

Gwybodaeth gyffredinol

Mae’r cyffuriau hyn yn aelodau o deulu phenethylamine 2C. Cemegau ymchwil ydynt h.y. cemegau arbrofol sydd heb eu cymeradwyo ar gyfer eu cymryd gan bobl, gan nad oes digon o ddata ar hyn o bryd ynglŷn â chanlyniadau eu defnydd.

Disgrifir effeithiau teulu cyffuriau 2C (e.e. 2CI, 2CE, 2CB, 2CT-7) fel cyfuniad effeithiau Ecstasi ac LSD, gan fod iddynt effeithiau seicadelig/rhithbeiriol ac effaith symbylydd. Defnyddir y cyffur yn bennaf ar gyfer hamdden neu fel entheogen gan y rheiny sy’n defnyddio Ecstasi a chyffuriau clwb eraill, neu gan ddisgyblion ysgol neu fyfyrwyr coleg ac oedolion ifanc eraill mewn disgos a lleoliadau bywyd hwyr y nos.

Fe’i datblygwyd gan gemegydd o’r DU sy’n enwog am ei waith ar MDMA.  O ran strwythur mae’n debyg i MDMA ond nid oes ganddo effaith mor gryf. Mae’n rhoi elfen rhithbeiriol LSD gyda nodweddion egni ecstasi. Oherwydd y nodweddion hyn bu ymchwydd sydyn o’r cyffur ‘trippy’ hwn yn y byd gwyliau/dawns ers haf 2003 gan fod iddo effeithiau affrodisiad.

Deuir ar ei draws yn fwyaf cyffredin ar ffurf Halen Hydroclorid, tabled (gydag I ar y dabled), capsiwl, powdr neu hylif ac fel arfer caiff ei gymryd drwy’r geg a gellir cael gafael arno ar-lein. Mae’r profiad fel arfer yn para rhwng 2 a 4 awr ond gall bara cyhyd â 10 awr, yn dibynnu ar ffactorau megis cynnwys y stumog, cemeg y corff a’r ddos a gymerwyd. Po fwyaf y bydd person yn ei gymryd mwyaf dwys fydd y profiad ac anoddaf fydd ei reoli. 

Fel arfer cymerir 2C fel powdr gwyn, drwy’r geg neu drwy ei fewnanadlu. Fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol fel math o therapi ar gyfer cleifion seiciatryddol. Pan y’i mewnanedlir bydd y teimlad o ‘godi’ yn digwydd yn gynt na phan gaiff ei lyncu, ac os y’i cymerir drwy chwythiad gall llosgi dwys yn y trwyn ddigwydd.

 

Effeithiau

  1. Effeithio ar wybyddiaeth person a’i ddirnadaeth o realaeth
  2. Bydd defnyddwyr yn sôn am gynnydd mewn ymwybyddiaeth o liw, arogl a / neu sŵn neu’n profi afluniaeth realiti h.y. amser yn arafu
  3. Effaith symbylol, gan greu cynnwrf egni, teimlo’n fwy effro, ymwybyddiaeth gryfach o’r teimlad o fod fel un gyda’ch amgylchedd
  4. Rhithwelediadau
  5. Gall y corff ddod yn or-sensitif a all arwain at ymwybyddiaeth rywiol
  6. Creu teimlad o les a mewnwelediad personol, profiad ysbrydol a / neu un sy’n newid bywyd (nid yw’r rhain yn gadarnhaol bob amser)
  7. Cynnydd yn nhymheredd y corff
  8. Cynnydd yng nghuriad y galon
  9. Ymlediad cannwyll y llygad
  10. Pwffian chwerthin neu wenu gormodol

 

Risgiau

  1. Ychydig a wyddir am pa mor bur neu gaethiwus yw’r cyffur nac am ganlyniadau defnydd tymor canolig/hirdymor
  2. Mae dibyniaeth gorfforol yn annhebygol ond soniwyd am oddefedd a dibyniaeth seicolegol
  3. Mae’n achosi cur pen, cyfog, chwydu a gall dosau uchel arwain at ddryswch difrifol, aflonyddwch, colli cyswllt â'r amgylchedd a hyd yn oed ddeliriwm
  4. Gall dosau uwch greu paranoia eithafol, pryder ac ofn a cholli ego
  5. Soniwyd am densiwn/brathiadau cyhyrau, cyfog, chwydu, cryndod y corff, dolur rhydd ysgafn, bod ar bigau’r drain yn ogystal â thymer flin dros 24 awr
  6. Mae ffroeni’r cyffur yn boenus a bydd yn achosi llosgi dwys a phoenus yn y trwyn, gan gynyddu cryfder y cyffur deirgwaith drosodd a allai fod yn angheuol
  7. Effeithio ar thermostat y corff ac felly mae dawnsio mewn lle poeth megis clwb nos yn cynyddu’r siawns o or-gynhesu/dadhydradiad
  8. Bydd ei gymysgu gyda chyffuriau eraill yn dwysau’r holl effeithiau
  9. Osgowch ei gymysgu gydag iselyddion neu ei roi i rai sy’n dioddef o iselder neu seicosis gan y gall waethygu’r problemau e.e. achosi ymosodiadau panic a dadbersonoli. Gall hefyd sbarduno lefel uwch o broblemau seicolegol.

 

Y Gyfraith

Cyffur Dosbarth A – 2CI, 2CE, 2CB, 2CT-7

Mae gyrru o dan ddylanwad 2C yn anghyfreithlon. Canlyniad hyn fyddai dirwy, gwaharddiad rhag gyrru neu garchar. Mae caniatáu i gyffuriau 2C gael eu defnyddio yn eich eiddo yn anghyfreithlon a gallai hyn arwain at erlyniad.