Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Cocên

Cocên (Benzoylmethyl Ecgonine)

Enwau Stryd

Coke, Charlie, Snow, Dust, C, Freebase

Gwybodaeth Gyffredinol

Y mae Cocên yn tarddu o brysglwyn Dail Coco yn Ne America ac y mae wedi cael ei ddefnyddio ers 2,500 C.C. Fe’i adnabyddid fel anesthetig lleol ar gyfer llawdriniaeth ym 1884.

Y mae’n bowdr gwyn a all gael ei sniffian neu’i dabio ar gig y dannedd neu gall fod yn doddiad i’w chwistrellu. Y mae chwistrellu yn cynyddu’r peryglon cysylltiedig. Gall Cocên a Heroin gael eu chwistrellu gyda’i gilydd – adnabyddir hwn fel Speedballing.

Y mae defnyddwyr yn datblygu cynefinder a dibyniaeth ar Gocên, a all fod yn ddrud yn ariannol  ac yn niweidiol i iechyd a lles.

Effeithiau

  • Gellir teimlo’r effeithiau cyntaf ar ôl 12-20 munud ac y mae hwn yn parhau am 15-30 munud.
  • Y mae defnyddwyr yn profi teimladau o fywiogrwydd, hyder, cyffro ac weithiau ymddygiad ymosodol
  • Gall Cocên achosi pwysedd gwaed uwch, effrogarwch dwysach, nerfusrwydd a natur flin, dryswch, pyliau braw, dirdyniadau a cholli pwysau

Peryglon:

  • Yr effeithiau corfforol a allai ddigwydd yw difrod i’r danedd, haint cig y dannedd, briwiau ar y stumog, methiant yr arennau, gwaedu (gwaedlif), difrod i’r afu, poen yn y frest, rhythmau calon afreolaidd, enyniad cyhyrau’r galon, llewygfa anadlol, ataliad ar y galon neu strôc,
  • Gall difrod tymor hir ddigwydd i bilennau’r trwyn fel canlyniad i sniffian 
  • Y mae defnydd hefyd yn gallu achosi colli synnwyr arogli, colli’r cof, blinder, seicosis paranoia, arwahaniad cymdeithasol, rhithweledigaethau, obsesiwn, ymddygiad ailadroddol neu hyd yn oed marwolaeth

Dosbarth

Dosbarth A