Crac
Crac (Benzoylmethyl Ecgonine)
Enwau Stryd
Rock, Wash, Stone
Gwybodaeth Gyffredinol
Cocên yw Crac sydd wedi cael ei drin â chemigion sydd yn ei droi’n grisialau bach. Fel arfer y maent wedi’u hysmygu ond gallant gael eu toddi a’u chwistrelli. Fel arfer bydd defnyddwyr yn defnyddio pibau Crac wrth ysmygu’r cyffur hwn. Y mae Crac yn gyffur tebyg i Cocên ac y mae’n gaethiwus dros ben. Y mae Crac yn ffordd gyflym o gael effeithiau Cocên i’r ymennydd. Y mae defnyddwyr trwm hefyd yn cymryd Heroin i wanio’r chwant a achoswyd gan Crac.
Effeithiau
- Y mae’r penfeddw cychwynnol yn gryf iawn ond y mae’r effeithiau yn fyrhoedlog (cyn lleied â 10 munud). Yn aml y mae defnyddwyr yn mynd ar drywydd y penfeddw drwy gymryd dogn arall. Adnabyddir hwn fel ‘cwrso’r ddraig’.
- Os bydd defnyddiwr yn peidio ag ysmygu Crac y mae’r sgîl-effeithiau yn gallu parhau am amser eithaf hir.
Peryglon
- Yr effeithiau corfforol a allai ddigwydd yw difrod i’r danedd, haint cig y danedd, briwiau ar y stumpg, methiant yr arennau, gwaedu ( gwaedlif), difrod i’r afu, poen yn y frest, rhythmau caoln afreolaidd, enyniad cyhyrau’r galon, llewygfa anadlol, ataliad ar y galon neu strôc.
- Y mae defnydd hefyd yn gallu achosi colli synnwyr arogli, colli’r cof, blinder, paranoia, arwahaniad cymdeithasol, rhithweledigaethau, obsesiwn, ymddygiad ailadroddol neu hyd yn oed marwolaeth o orddos
Dosbarth
Dosbarth A