Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Ecstasi

Ecstasi (Methilenediocsimethylamffetamin MDMA)

Enwau Stryd

Burgers, Disco Biscuits, Doves, Bug Drug, E, Eckies, Echos, Exies, Mitzies, XTC, Diamonds, neu wedi’i adnabod drwy gynllun wedi’i argraffu ar dabledi, e.e meillion a moch, logo Mitsubishi ayyb.

Gwybodaeth Gyffredinol

Y mae Ecstasi yn gyffur adfywiol, dosbarth A. Y mae hefyd yn cael ei adnabod gan ei enw cemegol, MDMA. Yn aml cyfeirir at Ecstasi fel y cyffur cynllunydd gwreiddiol oherwydd ei gysylltiadau proffil uchel i ddiwylliant cerddoriaeth ddawns yn yr 80au hwyr a’r 90au cynnar. Yr oedd clybwyr yn cymryd Ecstasi i deimlo’n egnïoledig ac yn hapus, i aros ar ddihun a dawnsio am oriau. Y mae’r effeithiau’n cymryd tua hanner awr i ddechrau ac yn tueddu i barhau rhwng 3 a 6 awr, wedi’u dilyn gan  ddisgyniad graddol a all wneud i bobl deimlo’n gysglyd ac yn isel eu hysbryd.

Problem fawr gydag Ecstasi yw ei fod yn anaml yn bur. Nid ydych yn gallu bod yn siwr beth sydd ynddo fe ac ni fedrwch ragweld sut y byddwch yn ymateb. Weithiau does dim MDMA o gwbl, er bod astudiaeth ddiweddar wedi darganfod mewn rhai mannau o’r wlad fod cyfanswm MDMA mewn Ecstasi yn cynyddu.

Fel arfer y mae Ecstasi yn dod fel tabledi crwn, fflat mewn meintiau a lliwiau amrywiol (ond yn aml gwyn), sydd fel arfer ag addurnau bach, boglynnog ar un ochr. Weithiau gall Ecstasi ddod fel pilsen a all fod yn felyn, yn binc neu’n glir ac yn anaml iawn fel powdr.

Effeithiau

  • Y mae Ecstasi yn gwneud i bobl deimlo mewn cywair â’u hamgylchoedd, a gall wneud cerddoriaeth a lliwiau’n fwy dwys 
  • Yn aml mae defnyddwyr yn cael teimladau dros dro o gariad a serch at y bobl y maent gyda nhw ac at y dieithriaid o’u cwmpas nhw
  • Y mae effeithiau tymor byr defnyddio Ecstasi yn gallu cynnwys poen meddwl, pyliau dychryn, pyliau dryslyd, paranoia a hyd yn oed seicosis
  • Y mae llawer o bobl yn teimlo’n wir siaradus ar E (er nad yw’r sgyrsiau hyn  bob amser yn gwneud synnwyr i bobl sydd ddim ar E)
  • Y mae sgîl-effeithiau corfforol yn gallu cynnwys canhwyllau llygaid llydan agored, teimlad coslyd, tynhad cyhyrau’r ên, gwres corff uwch a’r galon yn curo’n gyflymach

Peryglon

  • Does dim modd dweud beth sydd yn Ecstasi nes i chi ei lyncu fe. Efallai y bydd sgîl-effeithiau negyddol o gyffuriau a chynhwysion eraill sydd wedi cael eu hychwanegu
  • Y mae defnyddwyr tymor hir yn gallu dioddef oddi wrth broblemau cof, iselder ysbryd neu ddychryn
  • Y mae defnyddio Ecstasi wedi cael ei gysylltu ag anwydau a gyddfau tost mwy aml, a phroblemau afu, arennau a chalon
  • Y mae unrhywun sydd ag anhwylder ar ei galon, problemau pwysedd gwaed epilepsi neu asthma yn gallu cael adwaith peryglus iawn i’r cyffur
  • Bu dros 200 o farwolaethau yn yr UD ers 1996 sydd yn gysylltiedig ag Ecstasi.
  • Y mae Ecstasi yn effeithio ar reolaeth tymheredd y corff sydd yn cynyddu posibilrwydd gorgynhesu a dysychiad pan yn fywiog.
  • Gall Ecstasi achosi i’r corff ryddhau hormon sydd yn ei atal rhag wneud dŵr. Y mae yfed yn rhy gyflym yn effeithio ar gydbwysedd yr halen yn eich corff, a all fod mor angheuol â pheidio ag yfed digon o ddŵr. Ni ddylai defnyddwyr sipian mwy na pheint o ddŵr neu ddiod di-alcohol bob awr.

Dosbarth

Dosbarth A