Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

LSD

LSD (Lysergic Acid Diethylamide)

Enwau Stryd

Tabs, Acid, Trips, Dots, Micro Dot, Blotter, Cheer, Drop, Flash, Hawk, L, Lightning Flash, Lucy, Rainbows, Smilies, Stars,

Gwybodaeth Gyffredinol

Y mae LSD yn gyffur hanner-synthetig sydd wedi’i wneud yn gemegol o asid  lysergig sydd yn tarddu o’r Aifft, ffwngws ŷd sydd fel arfer yn tyfu ar ryg. Fel arfer y mae e’n cael ei gynhyrchu’n anghyfreithlon ym Mhrydain neu Ewrop.

 Mae LSD yn gyffur grymus rhithbair. Yn aml y mae defnyddwyr yn profi golygwedd afluniedig o’r byd, weithiau’n gweld ac yn clywed pethau sydd ddim yno (rhithweledigaethau). Y mae profiad cymryd LSD yn cael ei adnabod fel ‘trip’. Y mae tripiau yn gallu bod yn dda neu’n wael, ond ni wyddoch sut y bydd e’n effeithio arnoch chi nes i chi ei gymryd, a does dim modd ei atal unwaith y bydd wedi dechrau.

Defnyddiwyd LSD a oedd wedi’i gynhyrchu’n anghyfreithlon mewn labordai gyda chleifion seiciatrig yn y 1950au. Yn y 1960au yr oedd yn ffurfio rhan o’r “diwylliant hipi”. Oherwydd y byd Rêf yr oedd cynnydd yn nefnydd LSD yn ystod y 1980au canol. Beth bynnag y mae argaeledd LSD wedi lleihau tuag at ddiwedd y 1990au.

Cymerir LSD drwy’r genau.

Effeithau

  • Y mae effeithiau seicolegol LSD (trip) yn anrhagweladwy. Y mae trip da yn gallu gwneud i ddefnyddwyr deimlo’n hapus ac wedi ymlacio, gyda rhithweledigaethau dymunol. Y mae trip gwael yn gallu achosi i chi deimlo’n bryderus, yn gynhyrfus ac yn ddryslyd gyda rhithweledigaethau annymunol a dychrynllyd.
  • Y mae’r fath drip a brofwch yn gallu cael ei effeithio gan gryfder y ddogn, eich cyflwr meddwl, eich amgylchoedd a’ch cwmni. Os ydych yn teimlo’n anniogel neu os ydych mewn hwyliau drwg, yr ydych yn fwy tebyg o gael trip gwael.
  • Gall sgîl-effeithiau trip fod yn ddryswch, penbleth, blinder, colli cyd-drefniant, afluniad amserau a lleoedd a golwg dwbl a gofid emosiynol.

Peryglon

  • Os byddwch yn cael trip gwael y mae’n gallu bod yn ddychrynllyd ac arswydus yn aml.
  • Weithiau bydd pobl yn brifo eu hunain yn ystod trip gwael.
  • Hefyd y mae posibilrwydd y bydd ôl-fflachiau’n digwydd weithiau. Y mae ôl-fflach yn deimlad, sydd yn debyg i’r un a gynhyrchwyd gan y cyffur yn wreiddiol, sydd yn achosi i chi ail-fyw rhan o’r profiad gwreiddiol amser hir ar ôl y trip cychwynnol.
  • Fel arfer bydd ôl-fflachiau’n digwydd o fewn wythnosau o gymryd LSD, ond gellir eu profi nhw fisoedd neu weithiau hyd yn oed flynyddoedd yn hwyrach.
  • Yn y tymor hir yr ydych hefyd yn mynd i berygl y gall achosi neu gychwyn problemau iechyd meddwl gwaelodol.

Dosbarth

Dosbarth A