PMA
PMA (Paramethocsimethyamffetamin),
Enwau Stryd
PMA, Chicken Fever, Chicken Yellow, Double Stacked, Killer, Mitsubishi Turbo, PMMA, Red Mitsubishi.
Gwybodaeth Gyffredinol
Y mae PMA yn debyg i MDMA (Ecstasi). Y mae’n gallu gwneud i ddefnyddwyr deimlo’n effro, yn fyw ac yn llawn egni. Y mae ei debygrwydd yn golygu fod PMA yn wir yn cael ei werthu weithiau fel Ecstasi. Beth bynnag y mae PMA yn llawer cryfach, ac fel MDMA, y mae’n gallu achosi codiad angheuol yn nhymheredd y corff. Y mae effeithiau PMA hefyd yn cymryd mwy o amser i ddechrau cael eu teimlo na MDMA – felly y mae rhai defnyddwyr wedi gorddosio drwy gymryd tabled ar ôl tabled wrth feddwl fod dim byd yn digwydd, sydd hefyd yn gallu bod yn angheuol.
Effeithiau
- Rhuthr egni sydd yn gwneud i ddefnyddwyr deimlo’n effro ac yn fyw
- Y mae defnyddwyr yn teimlo eu bod mewn cywair â’u hamgylchoedd
- Y mae synau a lliwiau’n fwy dwys
- Teimladau o gariad mawr at ffrindiau a dieithriaid
Peryglon
- Y mae cyn lleied a chwarter tabled (60mg) yn ddigon i gynyddu’n arwyddocaol pwysedd y gwaed, tymheredd y corff a churiad y galon
- Y mae unrhywun â chyflwr y galon, problemau pwysedd gwaed, epilepsi neu asthma yn gallu cael adwaith peryglus iawn i’r cyffur
- Y mae unrhywun sydd yn defnyddio gormod yn gallu mynd yn baranoiaidd neu’n isel ei ysbryd.
- Y mae PMA yn gallu achosi gwingiadau cyhyrau ac y mae llawer o bobl yn teimlo’n sâl iawn ar ôl ei gymryd.
- Y mae PMA yn affeithio ar reolaeth tymheredd y corff ac y mae’n gryfach nag Ecstasi, ac felly y mae perygl gorgynhesu’n gallu bod yn fwy. Dylai defnyddwyr gymryd egwyl yn rheolaidd i oeri a dylent gadw’n hydradol. Os byddwch yn teimlo’ch tymheredd yn esgyn ar y llawr dawnsio ewch am gymorth ar unwaith.
- Y mae’r peryglon tymor hir sydd yn gysylltiedig â PMA eto i gael eu hastudio ond y mae llawer siwr o fod yn debyg i rai Ecstasi
- Y mae cymysgu PMA ag alcohol yn gallu cael canlyniadau difrifol – y mae effeithiau PMA wedi’u cynyddu, gan ei wneud yn fwy tebyg y bydd pobl yn profi ei effeithiau negyddol.
Dosbarth
Dosbarth A