Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Amffetiminiau

Amffetiminiau (Amphetamine sulphate, dexamphetamine sulphate, dextroamphetamine, methylamphetamine)

Enwau stryd

Speed, Whizz, Powdr, Billy, Sulph, Amff, Uppers

Gwybodaeth Gyffredinol

Symbylyddion synthetig yw Amffetiminiau yn cael ei gwneud mewn labordai ac ar gael fel tabledi, hylif  neu bowdr. Yn gyffredinol daw ar ffurf powdr llwyd neu wyn fel y gellir ei ffroeni, llyncu, ysmygu, chwistrellu neu ei yfed mewn diod.

Mae Base Amphetamine ar gael yn gyffredin ac mae’n ffurf llawer cryfach o’r cyffur. Fe’i defnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn Fietnam i gadw milwyr yn effro ac i atal newyn. Ffurf o Speed yw Methamphetamine (Crystal Meth) sy’n edrych fel crisialau lled-wyn ac yn aml fe’i ysmygir.

Yn rheolaidd, cymerir Amffetaminiau gydag Ecstacy. Speed yw’r cyffur anghyfreithlon mwyaf amhur yn y DU - ar y stryd mae purdeb y cyffur yn llai na 10%.

Effeithiau

  • Pobl yn teimlo’n mwy effro a hyderus
  • Mae’n dwysau emosiynau ac yn cynyddu’r libido
  • Mae cannwyll y llygaid yn lledu a’r anadl a churiad y galon yn cyflymu
  • Gall rhai pobl deimlo’n bryderus, blin, dryslyd a pharanoid

Risgiau

  • Gall defnyddwyr ddioddef tyndra, pryder,blinder ac iselder.
  • Mae Speed yn  lleihau archwaeth ond nid yw yn boddhau angen y corff am faeth.
  • Mae dôsau uchel dro ar ôl tro yn gallu achosi pyliau o banig,rhithwelediadau yn ogystal ag anhunedd, deliriwm a chynnydd mewn pwysedd gwaed
  • Gall defnydd hir-dymor roi straen ar y galon ac achosi salwch meddwl. Gall fod yn beryglus i unrhyw un gyda chyflwr ar y galon neu hanes o anhwylderau seicolegol ddefnyddio Amffitaminiau
  • Mae chwistrellu Amffitamin yn arbennig o beryglus oherwydd nad yw cryfder na phurdeb  powdr y stryd yn hysbys.
  • Mae rhannu nodwyddau yn rhoi y defnyddiwr mewn risg o Hepatitis B neu C a HIV/AIDS
  • Drwy ei ddefnyddio lleheuir adnoddau naturiol y corff gan arwain i lefelau egni isel
  • Mae defnyddwyr tymor hir yn gallu bod yn  gaeth i’r wefr mae Speed yn ei roi iddynt
  • Gall goddefgarwch ddatblygu sy’n golygu fod rhaid defnyddio mwy i gael yr un effaith.
  • Mewn achosion o gor-ddôs gellir dioddef strôc, difrod i’r ysgyfaint, arennau a’r stumog tra fod coma a marwolaeth yn bosibl
  • Mae ysmugu ‘Crystal meth’ (weithiau’n cael ei adnabod fel ‘ice’) yn cynhyrchu rhuthr hynod ddwys sy’n gallu para rhwng 4 a 12 awr.

Dosbarth

Dosbarth B