Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Benzo Fury

Benzo Fury 6-APB (1-(benzofuran-6 yl) propan-2-amine)

Enw ar y stryd

Benzo Fury

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Benzo Fury yn enw sydd wedi ei frandio ar gyfer cemegyn ymchwil ac anterth cyfreithiol 6-APB (1-(benzofuran-6 yl) propan-2-amine). Symbylydd synthetig yw’r sylwedd. Mae dadansoddiad o rai profion wedi dangos ei fod yn cynnwys sylweddau eraill megis D2PM (Diphenylprolinol). Nid yw 6-APB wedi ei asesu’n iawn o ran gweithrediad ffarmacolegol, ond ar sail ei debygrwydd cemegol i amffetaminau a chyfansoddion methylenediocsy, mae’n debygol o weithredu fel cyfrwng rhyddhau ac atalydd ail-gymryd serotonin a dopamine. Gellir ei ganfod ar ffurf pelenni neu bowdr gwyn.

Effeithiau

  • teimlad o symbyliad a chyffro, canfyddiad o gynnydd mewn egni a bywiogrwydd
  • awydd i siarad,
  • canolbwyntio gwael
  • rhithweledigaethau gweledol a chlywedol (clywed a gweld pethau)
  • blys i ail-ddosio
  • newidiadau yn nhymheredd y corff
  • llai o archwaeth
  • cannwyll y llygad yn ymledu
  • chwysu
  • rhincian dannedd, tynhau’r safn
  • ceg sych, mwy o syched
  • methu cysgu/insomnia.

Risgiau

  • pryder, paranoia
  • canolbwyntio gwael
  • dryswch meddwl
  • cof tymor byr gwael
  • cynnydd yng nghyfradd y galon
  • cynnydd pwysedd gwaed
  • poenau yn y frest/ crychguriadau.

Dosbarth

Dosbarth B (ers 10/6/2014)