Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Black Mamba

Black Mamba 

Enwau ar y stryd

Spice, Bombay Blue, Bliss

Gwybodaeth gyffredinol

Black Mamba yw’r enw brand ar gyfer cynnyrch llysieuol gwyrdd golau y mae profion yn dangos sy’n cynnwys y canabinoid synthetig AM-2001 ac oleamide, asid oleig. Y cynnyrch Black Mamba mwyaf cyffredin a welwyd hyd yma yn y DU yw brand o’r enw Kanna.  Nid yw AM-2001 wedi ei reoli ar hyn o bryd yn y DU. Mae oleamide, sylwedd sy’n digwydd yn naturiol, yn annog cwsg mewn anifeiliaid ac mae’n cael ei astudio fel triniaeth bosibl ar gyfer anhwylderau cysgu a hwyliau. Nid yw wedi ei reoli yn y DU. Mae rhai adroddiadau wedi dweud mai Damiana yw Black Mamba, llwyn blodeuol gydag amrywiaeth o briodweddau honedig, er bod profion yn gwrthbrofi hyn hyd yma. Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol bod rhywogaeth o ganabis real a elwir yn Black Mamba a chynnyrch llosgi egni o’r enw Black Mamba neu Hyper Rush, sydd wedi ei anelu at fagu cyhyrau (a honnir sy’n cynnwys Epehdra).

Mae canabinoids synthetig yn gemegau sy’n dynwared effeithiau’r prif gyfansoddyn gweithredol mewn canabis, TetraHydroCannabinol (THC). Caiff y canabinoids synthetig hyn fel arfer eu gwerthu mewn cymysgeddau ysmygu ‘llysieuol’, a chwistrellir fel arfer ar y planhigyn. Hyd yma, defnyddiwyd y planhigyn i gludo’r cyffuriau synthetig ac nid yw fel arfer yn cynnwys unrhyw dybaco neu blanhigyn canabis. Weithiau ni fydd y gymysgedd ysmygu yn cynnwys unrhyw ganabinoids synthetig.

Mae nifer fawr o ganabinoids posibl all gael eu syntheseiddio. JWH yw’r teulu cemegau mwyaf cyffredin, a JWH-018 yw’r cyfansoddyn mwyaf cyffredin hyd yma. Mae nifer fawr o gynhyrchion sy’n cynnwys canabinoids synthetig yn gyffuriau Dosbarth B, y mae’n anghyfreithlon bod yn eu meddiant, eu rhoi i ffwrdd neu eu gwerthu.

Fel gyda chyffuriau seicoweithredol eraill, caiff y cyffur hwn ei fanwerthu o siopau taclau cyffuriau ac ar-lein. Caiff AM-2001, un o’r cynhwysion gweithredol, hefyd ei werthu ar ei ben ei hun, fesul gram ac mewn symiau cyfanwerthu. Yn nodweddiadol dywed defnyddwyr Black Mamba eu bod wedi talu £10 am baced yn cynnwys gram, neu £25 am baced 3g.

Mae’r cynnyrch ei hun yn edrych fel blagur gwyrdd golau neu lysieuyn; nid oes coesynnau na dail yn bresennol er weithiau gwelwyd hadau bach coch. Pan gaiff ei ffroeni tu mewn i’r paced gellir canfod arogl toddydd/cemegol cryf, ond nid yw’n ymddangos bod arogl cryf ar y blagur eu hunain, ac nid yw’r cynnyrch yn rhyddhau arogl cryf pan gaiff ei ysmygu.

Effeithiau

  • Yn ôl defnyddwyr, pan gaiff ei ysmygu mae gan y sylwedd briodweddau ‘tebyg i skunk’ ond mae’n llawer mwy tebygol o achosi afluniadau pwerus a chryf mewn realaeth a rhithweledigaethau.

* Mae Skunk yn fath cryf o’r planhigyn canabis sydd â lefelau uchel o TetraHydroCannabinol (THC)

Risgiau

  • Gall achosi anawsterau anadlu
  • Chwydu
  • Brechau difrifol
  • Colli rheolaeth dros rai rhannau o’r corff

Dosbarth

Dosbarth B