Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Cetamin

Cetamin  (Ketamine Hydrochloride)

Enwau ar y stryd

K, special K, fitamin K, super K, Green

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Cetamin yn gyffur anaesthetig pwerus sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer llawdriniaethau ar bobl ac anifeiliaid. Mae’n gyffur rhithweledigaethol. Mae Cetamin fel arfer yn bowdr gronynnol gwyn y gellir ei ffroeni ond gellir hefyd ei gael ar ffurf tabled neu gellir ei chwistrellu. Os caiff ei ffroeni efallai y defnyddir llafn rasel ar arwyneb gwastad caled e.e. drych gyda’r powdr wedi ei falu yn cael ei ffroeni i fyny drwy diwb papur neu arian papur wedi ei rolio. Cyffur presgripsiwn yn unig yw Cetamin. Mae Cetamin wedi ymddangos fel cyffur clybiau prif ffrwd yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi ei farchnata fel ‘anterth llawn hwyl cyflym’.

Effeithia:

  • Bydd effeithiau yn digwydd wedi 15-30 munud a gall defnyddwyr fod ar ‘drip’ am hyd at 3 awr
  • Mae gan Cetamin effeithiau poenladdwr ond mae hefyd yn addasu canfyddiad rhywun
  • Mae defnyddwyr yn teimlo wedi eu datgysylltu oddi wrth eu hunain ac eraill o’u cwmpas
  • Mae Cetamin yn creu profiadau ‘allan o’r corff’ a rhithweledigaethol wedi eu dilyn gan ddiffrwythder a symudiadau cyhyrau od
  • Gall achosi cyfog a chwysu
  • Yn aml bydd Cetamin yn rhoi teimladau o gynnydd mewn egni ac ewfforia
  • Yn ystod yr effeithiau gall defnyddwyr fethu symud yn gorfforol
  • Yn debyg i LSD, caiff effeithiau Cetamin eu dylanwadu gan hwyliau’r defnyddiwr a’r amgylchedd.

Risgiau:

  • Gall golwg defnyddwyr Cetamin fynd yn aneglur a gallant gael anhawster i symud a siarad
  • Gan nad yw’r defnyddwyr yn teimlo unrhyw boen ceir perygl o anaf
  • Gall dosau uchel arwain at anawsterau anadlu a hyd yn oed fethiant y galon
  • Mae’r cyffur hwn hyd yn oed yn fwy peryglus pan gaiff ei gymysgu â chyffuriau eraill neu Alcohol
  • Mae Cetamin yn achosi ymosodiadau panig ac iselder ac mewn dosau uchel gall orliwio problemau iechyd meddwl sy’n bodoli’n barod
  • Weithiau dywedir mai Ecstasi yw’r tabledi
  • Gall Syndrom y Bledren ddatblygu sy’n effeithio leinin y bledren
  • Marwolaeth – yn aml iawn o ganlyniad i golli cydsymud / rheolaeth e.e. neidio o uchder, damweiniau traffig ar y ffyrdd a boddi
  • Mae gan Cetamin oes silff byr felly mae dosio dilynol yn digwydd, gan gynyddu risgiau cysylltiedig.

Dosbarth

Dosbarth B