Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Codin

Codin  (Methylmorphine) (Codeine phosphate)

Enwau stryd

Codis500, Cough syrup, Nurofen Plus/Max, Syrup

Gwybodaeth Cyffredinol

Cyffur opiad yw codin a ddefnyddir i drin poen ysgafn neu gymhedrol. Mae ar gael fel  presgripsiwn meddygol gan feddyg neu yn uniongyrchol o fferyllfa mewn dos is gydag Asprin, Ibuproffen neu Parasetamol.

Gall cymryd poenladdwyr sy’n cynnwys Codin ar raddfa uwch na’r dos o Asprin, Ibuproffen neu Parasetamol a argymhellir fod yn angeuol. 

Mae Codin ar gael fel tabled, surop (e.e. surop peswch) neu fel hylif i’w chwistrellu. Fel arfer mae’n cael ei lyncu. Bydd rhai sy’n camdrin cyffuriau yn malu tabledi a’u ffroeni, gall rhai geisio ei chwistrellu.

Mae pecynnau meddyginiaethau sy’n cynnwys codin yn rhybuddio o’r peryglon o ddibyniaeth ac yn cynghori na ddylid defnyddio cyffur nad yw’n bresgripsiwn meddygol am gyfnod o dridiau yn unig heb gyngor meddygol. Mae gyrru tra’n cymryd Codin yn anghyfreithlon. Gall pobl fod yn anaddas i yrru y diwrnod canlynol. Bydd hyn yn arwain i ddirwy drom, anghymwyso o yrru neu hyd yn oed cyfnod mewn carchar.

Effeithiau

Mae effeithiau Codin yn debyg i opiadau eraill:

  • Teimladau cynnes a llesol, tawel, ymlacio a chysglyd
  • Cyfogi,chwydu, rhwymedd, colli archwaeth bwyd, teimlo’n gysglyd, dryswch, chwysu.cosi,ceg sych, newid hwyliau a theimlo’n swrth

Risgiau

  • Mae’n gaethiwys.
  • Mae’n gostwng pwysau gwaed ac yn atal anadlu normal, gall hyn arwain i fethu anadlu. Mae y risg o or-ddos a marwolaeth yn cynyddu os y cymysgir Codin gyda iselyddion eraill e.e. alcohol.
  • Pan fydd dos uwch o dabledi Codin na’r hyn â argymhellir yn cael ei gymryd ynghyd â phoenladdwyr eraill (fel arfer Parasetamol, Asprin neu Ibuproffen) mae yna risg go iawn o or-ddos gyda chanlyniadau o fethiant yr arennau, methiant yr iau neu ddiffyg traul a gwaedu yn y stumog sy’n gallu bod yn angeuol.
  • Fel gydag opiadau eraill , mae cymryd dos uchel o Codin yn ystod beichiogrwydd yn gall arwain at symptomau o dynnu’n ôl mewn babi newydd anedig.
  • Gall symptomau tynnu’n ôl gynnwys cryndodau nerfus,pryder,dylyfu gên,chwysu, trwyn sy’n rhedeg, tarfu ar gwsg, cyfog,bymps gwydd, aflonyddrwydd, dolur rhydd, crampiau yn yr abdomen a sbasmau cyhyrol.

Dosbarth

Dosbarth B