Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

GHB/GBL

GHB (Gammahydroxybutrate) GBL (Gammabutyrolactone)

Enwau ar y stryd

4-BD, GBH, GBL, Liquid Ecstasy

Gwybodaeth gyffredinol

Mae gan y cyffur hwn, a adnabyddir fel ‘Liquid Ecstasy’ ac sydd â’r enw cemegol Gammahydroxybutrate, effaith sedatif ac anaesthetig pwerus. Fel arfer caiff ei werthu fel hylif di-liw, diarogl gyda blas ychydig yn hallt mewn poteli bach neu gapsiwlau.  Fe’i cysylltir gyda ‘sbeicio diodydd’ ac achosion o drais ac ymosodiadau rhywiol.

Effeithiau

  • Ar ddosau isel mae’r effeithiau yn debyg i alcohol, gan wneud i’r defnyddiwr deimlo wedi ymlacio, yn sgwrsiog, fflyrtiog ac ychydig yn chwil
  • Gyda dosau uwch gall defnyddwyr deimlo’n hapusach, yn fwy cyffyrddol ond hefyd yn fwy cysglyd
  • Gyda dosau uwch fyth, mae defnyddwyr yn fwy tebygol o deimlo’n chwil, teimlo cyfog ac mewn perygl o ffitiau neu fynd yn anymwybodol
  • Mae’r cyffur yn achosi’r cyhyrau i ymlacio

Risgiau

  • Gall GHB a GBL wneud i’r defnyddiwr fynd yn anymwybodol, fynd i goma neu farw
  • Mae’r perygl o farw, hyd yn oed ymhlith defnyddwyr profiadol
  • Oherwydd y gall GHB a GBL eich gwneud yn llwyr anymwybodol, maent wedi eu cysylltu i ymosodiadau rhywiol gyda chymorth cyffuriau
  • Pan gaiff ei gymysgu’n wael gall losgi’r geg
  • Mae GBL/GHB yn arbennig o beryglus pan y’i defnyddir gydag alcohol gan fod y ddau’n gweithredu fel iselydd

Dosbarth

Dosbarth B