Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Mephedrone

Mephedrone  (4 methylmethcathinone)

Enwau stryd

M-Cat. Meow Meow, 4-MMC, Bounce, Bubble, Charge, Drone, MC, Meph, Miaow, White Magic, Molly

Gwybodaeth Cyffredinol

Cyffur adfywiol tebyg i Ecstasi neu Speed.Daw fel powdr gwyn , lled-wyn neu felyn sydd fel arfer yn cael ei ffroeni ond gellir ei lyncu ar ffurf capsiwlau neu dabledi neu ei ‘fomio’ mewn cwdyn. Disgrifia’r defnyddwyr y teimlad o ‘ddod i fyny’ neu ‘rhuthr’ fel bo’r cyffur yn cael effaith. Mae’r effeithiau yn debyg i Amffetiminiau. 

Effeithiau

  • Teimlo’n effro
  • Synwyr o dawelwch a lles
  • Cyffro
  • Symbyliad
  • Hwyliau uchel
  • Yn fwy siaradus
  • Effeithiau yn para am tua awr, ond gall hyn amrywio

Risgiau

Mae cymryd Mephedrone yn golygu bod risgiau - mae’r effeithiau tymor hir yn dod yn gliriach wrth i adroddiadau ddod i’r amlwg. Dyma beth rydym yn ei wybod: 

  • Mae defnyddwyr yn adrodd iddynt gael bysedd glas neu oer- oherwydd bod Mephedrone yn dylanwadu ar y galon a’r cylchrediad.
  • Mae rhai defnyddwyr yn dioddef gwaedu trwyn ar ôl ffroeni Mephedrone.
  • Yn 2010 adroddwyd am chwe marwolaeth yn Lloegr a Chymru  a oedd yn gysylltiedig â Mephedrone.
  • Mae gor-boethi wedi bod yn achos sylweddol mewn marwolaethau pan ddefnyddir mathau o gyffur amffetamin megis ecstasi ynghyd â  Mephedrone.
  • Mae peryglon cynyddol i chi os ydych yn cymysgu Alcohol gyda Mephedrone neu unrhyw gyffur arall sy’n achosi ‘rhuthr’ - gan gynyddu’r risg o farwolaeth.
  • Crampiau a sbasm cyhyrau

Dosbarth

Dosbarth B