Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Benzodiazepines

Benzodiazepines

Benzylpiperazine Hydrochloride (CAS 5321-63-1)

Enwau ar y stryd

Benzos, Blues, Downers, Eggs, Jellies, Mazzies, Moggies, Rohypnol, Roofies, Rugby balls, Vallies

Gwybodaeth gyffredinol

Rhain yw’r tawelyddion ysgafn mwyaf cyffredin a gaiff eu rhoi ar bresgripsiwn ac a adnabyddir fel anxiolytigau (ar gyfer rhyddhad rhag pryder yn ystod y dydd) a hypnotiau (i hybu cwsg). Maent yn llesgau’r system nerfol ganolog gan weithredu fel sedatif a gwrthgonfylsiwn. Rhai benzodiazepines cyfarwydd yw: Diazepam (Faliwm), Chlordiazepoxide (Librium), Lorazepam (Ativan), Medazepam (Nobrium), Flunitrazepam (Rohypnol), Oxazepam (Oxazepam), Temazepam (Normison), Flurazepam (Dalmane), Nitrazepam (Mogadon). Mae llawer mwy yn y dosbarth cyffuriau hwn. Cyffuriau ar bresgripsiwn yn unig yw’r rhain. Pan y’u dosbarthir at ddibenion meddygol fe’u defnyddir i drin anesmwythder, iselder, tensiwn a phryder; er mwyn ysgogi cwsg; fel ymlaciwr cyhyrau neu sedatif cyn llawdriniaeth. Cânt hefyd eu rhagnodi fel cyffur gwrthgonfylsiwn, ar gyfer anhwylderau seiciatrig ac i gynorthwyo gyda diddyfniad Alcohol. Gellir eu cymryd drwy’r geg neu eu chwistrellu.

Effeithiau

  • Bydd defnyddwyr yn teimlo wedi ymlacio ac yn teimlo lleihad mewn pryder yn ogystal ag ewfforia
  • Gall hefyd achosi cysgadrwydd, cur pen ysgafn, colli cydsymud a dryswch
  • Effeithiau yn dechrau ar ôl 15-20 munud a gallant bara am hyd at 6 awr

Risgiau

  • Gall defnyddwyr ddatblygu goddefedd i’r cyffur yn gyflym felly mae angen symiau uwch er mwyn cael yr un effaith
  • Bydd defnyddwyr yn teimlo’n gysglyd sy’n eu gwneud yn fwy tebygol i gael damweiniau
  • Mae posibilrwydd o orddosio os y’u cyfunir ag Alcohol
  • Defnyddiwyd Rohypnol i sbeicio diodydd gyda’r bwriad o wneud y dioddefwr yn gysglyd iawn neu’n anymwybodol ac yn methu gallu atal ymosodiad rhywiol. Adnabyddir fel cyffur ‘trais ar ddêt’
  • Gall dibyniaeth ddatblygu’n gyflym iawn. Mae’r rheiny sy’n ddibynnol ar Benzodiazepines yn dioddef symptomau diddyfnu difrifol os byddant yn stopio’n sydyn. Gall achosi ymosodiadau panig, pryder difrifol neu hyd yn oed agoraffobia.

Dosbarth

Dosbarth C