Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Khat neu Ghat

Khat neu Ghat (Catha Edulis)

Enwau ar y stryd

Chat, Quat, Qat, Qaadka, Catha Edulis

Gwybodaeth gyffredinol

Ysgogydd yw Khat sydd ag effeithiau tebyg i Amffetaminau. Fe’i defnyddir yn rheolaidd gan y gymuned Somali a Iemeni, yn bennaf gan ddynion. Ceir awgrym bod y stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’i ddefnydd gan fenywod yn golygu y bydd menywod yn fwy tebygol o’i ddefnyddio ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau bach neu gadw ei ddefnydd yn gyfrinachol.  Daw Khat o blanhigyn deiliog gwyrdd gyda’r un enw ac mae’n sylwedd llysieuol sy’n cynnwys nifer o gyfansoddion gwahanol. Mae’r planhigyn yn frodorol i Ddwyrain Affrica trofannol a Phenrhyn Arabia. Y prif gynhwysyn gweithredol yw Cathinone. Bydd defnyddwyr yn cnoi’r dail dros gyfnod o rai oriau oherwydd eu priodweddau symbylol. Gall leihau archwaeth.

Effeithiau:

  • Gall wneud pobl yn fwy effro a siaradus
  • Gall Khat roi teimladau o orfoledd
  • Er ei fod yn symbylydd dywed llawer o ddefnyddwyr eu bod yn teimlo’n dawel os y’i defnyddir dros ychydig oriau.

Risgiau:

  • Gall Khat wneud y defnyddiwr yn seicolegol ddibynnol (gydag awydd i barhau i’w ddefnyddio er gwaethaf y niwed posibl)
  • Pan fyddant yn rhoi’r gorau i’w ddefnyddio efallai y bydd defnyddwyr yn teimlo’n  ddiynni neu ychydig yn isel eu hysbryd
  • Os defnyddir llawer arno, gall Khat achosi insomnia, problemau’r galon, pwysedd gwaed uwch a phroblemau rhyw megis analluedd.
  • Gall roi teimladau o bryder ac ymosodedd
  • Mae rhai pobl yn gweld bod Khat yn eu gwneud yn groendenau ac mewn rhai achosion yn flin ac yn dreisgar
  • Bydd rhai defnyddwyr yn dioddef hunllefau, newid mewn hwyliau, rhithweledigaethau, pendro a dryswch
  • Gall defnyddwyr hefyd ddioddef ceg sych, hyperthermia, chwysu, poenau a rhwymedd
  • Gall Khat waethygu problemau iechyd meddwl sy’n bodoli’n barod

Dosbarth

Mae Khat yn gyffur Dosbarth C, ers mis Gorffennaf 2013.