Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

MSJ Diazepam

MSJ Diazepam (Faliwm)

Enwau ar y stryd - MSJs, Vallies, Blues, Doggies, Benzo's, Vera's, Scoobies

Gwybodaeth gyffredinol

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae camddefnyddio benzodiazepines (benzos/tawelyddion ysgafn/tabledi cysgu) wedi bod yn cynyddu’n raddol ledled y wlad.

Mae Diazepam cyfreithlon yn feddyginiaeth presgripsiwn yn unig ac yn gyffur Dosbarth C o dan Ddeddf Camddefnydd Cyffuriau 1971. Mae’n sedatif sy’n llesgau’r system nerfol ganolog.  Mae’r holl dabledi a ragnodir yn y DU yn mynd drwy broses wirio drylwyr.

Fodd bynnag, adnabyddir un ffynhonnell anghyfreithlon a fewnforir o Diazepam (Faliwm) fel MSJs neu ‘blues’. Mae’r sylwedd hwn yn anrhagfynegadwy ac yn beryglus i’w gymryd gan y gall ei gryfder amrywio. Gellir cael y tabledi hyn ar y rhyngrwyd. Mae’r tabledi anghyfreithlon hyn yn grwn gyda MSJ wedi ei argraffu ar un ochr a llinell ar draws canol yr ochr arall. Maent fel arfer yn lliw glas ac yn edrych yn debyg i dabledi Faliwm a geir ar bresgripsiwn. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru ceir sôn am dabledi melyn.

Effeithiau

  • Mae’r cyffur yn gweithredu fel sedatif gan lesgau’r system nerfol ac ‘arafu’r’ ymennydd a’r corff
  • Pan gaiff ei ragnodi’n feddygol mae’n helpu’r defnyddiwr i deimlo’n dawel ac wedi ymlacio neu gall gynorthwyo gydag insomnia
  • Fodd bynnag, pan gaiff ei gamddefnyddio gall achosi cysgadrwydd, cur pen, colli cydsymud, dryswch, ymddygiad ymosodol neu golli cof difrifol (weithiau am ddyddiau) neu os caiff ei gymysgu ag alcohol neu iselyddion eraill gall achosi gorddos, coma neu hyd yn oed farwolaeth

Risgiau

  • Os bydd person yn dod yn ddibynnol ar MSJ ac yna’n ceisio rhoi’r gorau iddo gall y symptomau diddyfnu fod yn ddifrifol iawn. Gallant gynnwys lleihad mewn canolbwyntio, cryniadau, cyfog, chwydu, cur pen, pryder, ymosodiadau panig, ffitiau ac iselder
  • Gall achosi colli cof tymor byr a gall dosau uwch beri i’r defnyddiwr fynd yn anghofus ac yn gysglyd
  • Gall fod yn gaethiwus iawn
  • Ni fydd defnyddwyr cyflenwadau anghyfreithlon yn gwybod beth yw cryfder yr hyn y maent yn ei gymryd a gallant gymryd gormod
  • Gellir ei gymysgu gyda chemegau eraill felly mae’r risgiau’n amrywiol ac yn ansicr.

Dosbarth

Dosbarth C