Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Phenazepam

Phenazepam

Enwau ar y stryd

Bonsai, Bonsai supersleep, Fenazepam

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Phenazepam yn benzodiazepine pwerus, cyffuriau y cyfeirir atynt fel tawelyddion ysgafn oherwydd eu bod yn rhyddhau tensiwn a phryder, ac yn helpu’r defnyddiwr i deimlo’n dawel ac wedi ymlacio. Dywedwyd bod Phenazepam bum gwaith yn gryfach na Faliwm (tawelydd cyffredin arall), felly mae’n hawdd cymryd gormod a gorddosio. Ni ddefnyddir Phenazepam yn y DU fel meddyginiaeth, ond fe’i defnyddir yn Rwsia i drin epilepsi ac anhwylderau niwrolegol. Yn flaenorol gwerthwyd a marchnatwyd Phenazepam fel ‘cyffur anterth cyfreithlon’ neu Faliwm ffug.

Effeithiau

  • Rhoi effaith sedatif, rhyddhau tensiwn a phryder, a gwneud i’r defnyddiwr deimlo’n dawel ac wedi ymlacio
  • Achosi colli cydsymud, penysgafnder a chysgadrwydd
  • Gall dosau mawr wneud y defnyddiwr yn anghofus ac i fynd i gysgu neu o bosibl ei roi mewn coma

Risgiau

  • Mae Phenazepam yn iselydd felly gall ei gymysgu gyda iselyddion eraill, megis tawelyddion eraill neu alcohol, arwain at orddosio damweiniol ac o bosibl marwolaeth
  • Mae’n cymryd ychydig oriau i Phenazepam gael effaith. Golyga hyn bod perygl y bydd pobl yn ail-ddosio cyn y byddant yn teimlo’r effeithiau ac felly’n cynyddu’r risg eu bod yn gorddosio
  • Defnyddir Phenazepam i wneud Faliwm ffug. Bydd pobl yn cymryd yr hyn a gredant sy’n ddos Faliwm arferol, ond mae mewn gwirionedd yn ddos uchel o Phenazepam, gan olygu gorfod mynd i’r ysbyty.

Dosbarth

Dosbarth C