Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Tawelyddion

Tawelyddion

Enwau ar y stryd

Tranx, Blues, Downers, Eggs, Jellies, Mazzies, Moggies, Norries, Roofies, Rugby balls, Vallies

Gwybodaeth gyffredinol

Gellir rhannu tawelyddion yn ddau brif grŵp sef ‘trwm’ (sy’n gyffuriau gwrthseicotig anghaethiwus) ac ‘ysgafn’ (sy’n ymlacwyr, yn gaethiwus ac yn dueddol i gael eu camddefnyddio).

Pan y’u cymerir gall y ‘tawelyddion ysgafn’ roi cyfnodau o dawelwch, ymlacio a chwsg ac fe’u defnyddir yn aml i drin pryder ac insomnia. Fe’u defnyddir weithiau hefyd i reoli ffitiau epileptig ac i drin cyflwr ddiddyfnu Alcohol. Cyffuriau presgripsiwn yw’r cyffuriau hyn ac fel arfer cânt eu rhoi gan feddyg. Oherwydd pryderon ynglŷn â’u nodwedd gaethiwus, cânt eu hargymell yn bennaf ar gyfer defnydd tymor byr yn unig a lle bo’r problemau’n ddifrifol.

Gelwir y grŵp mwyaf cyffredin o dawelyddion ysgafn yn benzodiazepines. Mae’r rhain yn cynnwys Rohypnol, Faliwm (a elwir hefyd yn Diazepam), Temazepam a Phenazepam (er y ceir Phenazepam weithiau mewn cyffuriau stryd, ni chaiff ei ragnodi gan feddygon yn y DU).

Effeithiau

  • Gall tawelyddion achosi cysgadrwydd gan eu bod yn llesgau’r system nerfol ac yn arafu’r ymennydd a’r corff. Gall dosau mawr wneud y defnyddiwr yn anghofus a’i wneud yn or-gysglyd
  • Gallant ryddhau tensiwn a lleihau pryder gan adael y defnyddiwr yn teimlo’n dawel ac wedi ymlacio a gallant helpu gydag insomnia
  • Maent yn atal ffitiau
  • Gall rhai tawelyddion achosi colli cof tymor byr
  • Bydd rhai pobl yn mynd yn ddibynnol iawn ar dawelyddion. Pan fyddant yn rhoi’r gorau iddynt byddant yn cael symptomau diddyfnu difrifol, yn cynnwys lleihad mewn canolbwyntio, cryniadau, cyfog, chwydu, cur pen, pryder, panig ac iselder.

Risgiau

  • Gallant fod yn gaethiwus iawn, ac yn feddyginiaethol fe’u hargymhellir dim ond ar gyfer defnydd tymor byr
  • Gall tawelyddion achosi caethiwed seicolegol a chorfforol sy’n achosi symptomau diddyfnu difrifol megis lleihad mewn canolbwyntio, cryniadau, cyfog, chwydu, cur pen, pryder, panig ac iselder
  • Mae goddefedd yn cynyddu dros amser, sy’n golygu y gallai fod angen i ddefnyddwyr gynyddu’r ddos, naill ai i gael yr un effaith neu dim ond er mwyn cynnal yr effaith feddygol gadarnhaol wreiddiol ar eu pryder neu insomnia
  • Gall diddyfnu sydyn achosi ymosodiadau panig a ffitiau a all, mewn achosion difrifol, fod yn angheuol
  • Mae malu’n fân neu doddi tawelyddion sy’n dod ar ffurf tabledi neu gapsiwlau, er mwyn chwistrellu’r cyffur, yn hynod beryglus ac weithiau’n angheuol. Gall y sialc sydd yn y tabledi achosi’r gwythiennau i gwympo a all beri heintiad neu grawniad. Gall chwistrellu capsiwlau gel hefyd fod yn angheuol pan fydd y gel yn troi’n solid yn y pibellau gwaed
  • Mae tawelyddion, er enghraifft Rohypnol, wedi eu defnyddio i sbeicio diodydd gyda’r bwriad o wneud y dioddefwr yn gysglyd iawn neu’n anymwybodol ac yn methu gallu atal ymosodiad rhywiol
  • Mae tawelyddion sydd i’w cael ar y stryd naill ai wedi eu dwyn o ysbytai neu gan bobl sydd wedi eu cael ar bresgripsiwn. Caiff rhai hefyd eu mewnforio o dramor. Os ydynt wedi eu mewnforio ni allwch fod yn siŵr o’u purdeb.

Dosbarth

Dosbarth C