Temgesic
Temgesic (Buprenorphine Hydrochloride)
Enwau ar y stryd
Tems, Bupes, Subs
Gwybodaeth gyffredinol
Mae tabledi isdafodol Temgesic yn cynnwys y cynhwysyn gweithredol buprenorphine, sy’n fath o feddyginiaeth a elwir yn opioid analgesic (poenladdwr). Mae’n boenladdwr cryf sy’n perthyn i Forffin.
Fe’i defnyddir i liniaru poen difrifol i gymedrol pan gaiff ei ragnodi gan feddyg. Mae’r cyffur yn gweithio trwy weithio ar y system nerfol ganolog. Fe’i disgrifir fel iselydd a phoenladdwr a gellir ei gymryd drwy’r geg neu ei chwistrellu.
Effeithiau
- Dryswch
- Colli synnwyr cyfeiriad
- Teimlo’n gysglyd
- Ewfforia
- Llai o bryder
- Symptomau diddyfnu yn cynnwys cynnwrf, pryder, nerfusrwydd ac ysgwyd.
Risgiau
- Goddefedd
- Mynd yn gaeth
- Damweiniau
- Rhwymedd
- Problemau anadlu
- Gall fod yn niweidiol i fabanod sy’n datblygu
- Gorddosio
Dosbarth
Dosbarth C