Be Di'r Gyfraith?

  • Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan

    Diogelu Plant a Phobl Ifainc

    Mae diogelu yn cyfeirio at warchod plant rhag cam-drin ac atal niwed i’w hiechyd neu eu datblygiad.

    Mae’n anelu at sicrhau eu bod yn cael eu magu mewn amgylcheddau diogel a fydd yn caniatáu eu datblygiad a’u lles.

  • Beth mae ‘Diogelu’ yn gwarchod eich plentyn rhagddo?

    Diogelu: eu hunain rhag hunan-niweidio. atal damweiniau. trais domestig. pedoffiliaid. materion LGBT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol). digartrefedd. hiliaeth. ofn trosedd. troseddau. camfanteisio ar blant. cam-drin gan deulu/dieithriaid. rhianta amhriodol. goruchwyliaeth amhriodol. cam-drin drwy fwlio.
  • Sut alla i Ddeall y Derminoleg a Ddefnyddir?

    Pwy sy’n blentyn?

    Plant a phobl ifainc hyd at 18 oed.

    Pwy sy’n oedolyn bregus?

    Unrhyw oedolyn 18 oed neu hŷn sydd, oherwydd anabledd meddwl neu anabledd arall, oed, salwch neu sefyllfa arall, yn methu edrych ar ôl eu hunain yn barhaol neu dros dro na diogelu eu hunain rhag niwed sylweddol neu gam-fanteisio.

  • Beth yw’r Gwahaniaeth Rhwng Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant?

    Mae amddiffyn plant yn edrych ar adnabod cam-drin ac esgeulustod a gweithredu arno.

    Mae diogelu’n edrych ar gadw plant a phobl ifainc yn ddiogel rhag niwed ac yn edrych ar gamau gweithredu ataliol.

    Mae Deddf Plant 1989 yn diffinio “niwed” fel cam-drin (gan gynnwys cam-drin rhywiol a cham-drin nad yw’n gorfforol) neu amharu ar iechyd (corfforol neu feddyliol) neu ddatblygiad (corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol) (adran 31).

  • Diffinio Diogelu

    Dyma’r diffiniad a ddefnyddir gan y Swyddfa Safonau Mewn Addysg o Ddeddf Plant 2004:

    • amddiffyn plant a phobl ifainc rhag cael eu cam-drin
    • atal amharu ar iechyd a datblygiad plant a phobl ifainc
    • sicrhau bod plant a phobl ifainc yn tyfu mewn amgylchiadau sy'n gyson â darparu gofal diogel ac effeithiol
    • ymgymryd â’r rôl hwnnw er mwyn galluogi’r plant a’r bobl ifainc hynny i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd a chamu ymlaen yn llwyddiannus i fywyd fel oedolyn.
  • Be di’r gyfraith? Y Fframwaith Deddfwriaethol.

    Does dim un darn o ddeddfwriaeth unigol sy’n rhwymo diogelu ynghyd. Mae’r deddfau isod yn ffurfio’r prif gorff ar gyfer ‘Diogelu’:

    • Deddf Plant 1989
    • Deddf Plant 2004
    • Deddf Amddiffyn Plant 1999 (POCA)
    • Deddf yr Heddlu 1997
    • Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000
    • Deddf Hawliau Dynol 1998 a CCUHP
    • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
    • Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974
    • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
    • Deddf Troseddwyr Rhyw 1997
    • Deddf Troseddwyr Rhyw 2003
    • Deddf Diogelu Data 1984 and 1998
    • Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006
    • Deddf Addysg 2002
    • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel yn yr ysgol.

    Mae gan ysgolion y canlynol ar gyfer diogelu eich plentyn:

    • polisi a gweithdrefn diogelu plant
    • gweithdrefnau recriwtio diogel gan sicrhau bod gwiriadau’r DBS yn cael eu cynnal
    • gweithdrefn ar gyfer honiadau o gam-drin yn erbyn staff a gwirfoddolwyr
    • uwch aelod o staff penodedig sy’n arwain ar faterion diogelu

    Mae hyn yn helpu i sicrhau bod:

    Plant ac oedolion yn yr ysgol yn ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu, ac yn cael eu clywed. Byddant yn cael eu hannog i siarad a bydd safbwyntiau’n cael eu rhannu a’u gwerthfawrogi.

  • Sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel y tu allan i’r ysgol

    Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol

    O dan y Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol, gall unrhyw aelod o’r cyhoedd wneud cais i’r Heddlu sy’n rhan o’r cynllun am wybodaeth ynglŷn â pherson penodol sydd â chysylltiad â phlentyn/plant. Bydd yr Heddlu’n prosesu’r cais, ond nid oes sicrwydd y bydd gwybodaeth yn cael ei datgelu. Gall ymchwiliad gael ei gynnal yn gyntaf er mwyn darganfod a oes gan yr unigolyn y maent yn holi amdano/amdani hanes gwybyddus sy’n golygu y gallant beri risg i blant.

    Gwahoddir trydydd partïon sydd â phryderon (e.e. teidiau a neiniau neu gymdogion) ynghylch unigolyn sydd â chysylltiad â phlant i ddefnyddio’r cynllun hefyd. Fodd bynnag, lle y bo’n briodol, bydd y wybodaeth ond yn cael ei rhannu â rhieni a gwarcheidwaid neu’r rheini sydd yn y sefyllfa orau i amddiffyn plentyn.

    Rhaid trin gwybodaeth ynglŷn â datgeliad yn gyfrinachol. Rhoddir gwybodaeth fel bod modd cymryd camau i ddiogelu plant yn unig. Ni ddylai ymgeiswyr rannu’r wybodaeth hon gydag unrhyw un arall oni bai eu bod wedi siarad â’r Heddlu, neu’r person a roddodd y wybodaeth iddynt, ac mae’r Heddlu wedi cytuno y gellir rhannu’r wybodaeth. Wrth ystyried datgelu, bydd yr holl bobl berthnasol yn cael eu hysbysu.

  • Mae’r system diogelu plant cyfredol yn seiliedig ar Ddeddf Plant 1989

    Cyflwynodd y syniad bod lles plentyn yn hollbwysig wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â magwraeth plentyn.

    Sefydlodd cyfrifoldeb rhiant a ddiffinnir fel “yr hawliau, dyletswyddau, pwerau, cyfrifoldeb ac awdurdod sydd gan fam neu dad, yn ôl y gyfraith, dros y plentyn ac eiddo’r plentyn” (Adran 3).

  • Sefydliadau ac asiantaethau sydd â chyfrifoldebau penodol

    Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu “gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill” (adran 17).

    Mae gan Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) “statws person awdurdodedig” sy’n golygu bod ganddynt y pŵer i wneud cais uniongyrchol am orchymyn llys os yw’n credu bod plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed arwyddocaol.

    (Adran 31 o Ddeddf Plant 1989)

  • Mae’r prif egwyddorion sy’n tanategu gwaith
    gyda phlant a theuluoedd i’w gweld yng
    Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn,
    a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail
    i’w gwaith gyda phlant a theuluoedd yng Nghymru

  • Yn Plant a Phobl Ifainc: Gweithredu i’r Hawliau 2004 sefydlodd Llywodraeth Cymru 7 nôd craidd i’w gwaith a fyddai’n gofalu bod pob plentyn:

    1. Yn cael dechrau teg mewn bywyd
    2. Yn cael amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu
    3. Yn mwynhau’r iechyd gorau posibl ac nad ydynt yn cael eu cam-drin, eu fictimeiddio na’u hecsbloetio
    4. Yn cael mynediad i weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
    5. Yn cael eu clywed, eu trin â pharch, a bod eu hîl a’u hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu cydnabod
    6. Yn cael cartref diogel a chymuned sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol
    7. Yn osgoi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd tlodi.

    Mae pob sefydliad ac asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant nawr yn gweithio i gyflawni’r nodau craidd hyn.

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi selio’u 7 nôd craidd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

    Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989
    www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk

    Mae 54 erthygl yn y Confensiwn sy’n nodi sut y dylai plant cael eu trin.

    Mae’n cynnwys:

    • yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed
    • yr hawl i fynegi eu barn a chael eu clywed
    • yr hawl i ofal
    • yr hawl i wasanaethau ar gyfer plant anabl neu blant sy’n byw i ffwrdd o gartref.

    Mae gan blant yr hawl i’w hawliau