Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1. Pa oedran y gallaf adael fy mhlentyn ar ben ei hun?

Mae’ch plant yn dibynnu arnoch chi i’w hamddiffyn a chi sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn hapus, diogel ac yn cael gofal yn eich habsenoldeb. Does dim oedran cyfreithlon lle mae’n iawn i adael plentyn gartref ar ben ei hun, mae’n dibynnu ar:

  • pa mor aeddfed yw’ch plentyn
  • os ydy e/hi ’n hapus i gael ei adael
  • os ydy’n gallu ymdopi âg argyfwng
  • mae’n bwysig i gofio eu bod yn drosedd i adael plant ar eu ben eu hunain os ydy’n eu gosod mewn sefyllfa anniogel. Gall rhieni gael eu herlyn am esgeulustod.

Os ydych yn gadael plentyn hŷn gartref, sicrhewch ei fod yn hapus ynglyn â’r trefniadau ac ei fod yn gwybod beth i wneud mewn argyfwng. Gadewch rifau cyswllt gyda’ch plentyn. Peidiwch â gadael plentyn o dan 16 ar ben ei hun dros nos.

Am gyngor, llawrlythwch ganllaw y NSPCC ‘Home Alone: Your Guide to Keeping Your Child Safe’.

 

2. Ydy’n ddiogel i adael fy mhlentyn gyda gwarchodwr?

Ydy, os ydych yn hyderus bod y gwarchodwr yn gyfrifol a bod ef/hi  gallu ateb gofynion eich plentyn.

Mae angen i chi feddwl am ofynion eich plentyn yn arbennig anghenion:

  • plant ifanc iawn
  • plant sy’n anhwylus
  • plant anabl
  • plant hŷn
  • lle mae nifer o blant
  • plant sydd âg ymddygiad heriol.

Os ydy rhain yn gymwys i’ch sefyllfa chi , edrychwch am warchodwyr profiadol,dibynadwy sydd dros 16 oed. Mae mam/ tad cu, nain/ taid neu aelod o’r teulu yn gwneud gwarchodwyr da ond cofiwch i ystyried y pwyntiau uchod.

 

3. A fedraf adael fy mhlant iau gyda brawd/chwaer hŷn?

Mae brawd neu chwaer hŷn yn gweld bod eu brodyr/chwiorydd ifancach yn llai cydweithredol pan fyddan nhw’n gyfrifol. Er bod llawer o bobl ifanc gyfrifol iawn i’w cael mae’n ymddangos bod ar adegau achosion o fwlian yn digwydd.

  • Efallai bydde gwarchodwr plant yn wel
  • Gadewch eich plentyn gyda rhywun chi’n ymddiried ynddo/hi pob tro

 

4. Sut ydw i’n gwybod y gallaf ymddiried mewn gwarchodwr plant?

Mae rhaid i warchodwyr plant gofrestru gyda’r awdurdodau priodol a darparu amgylchedd diogel i’ch plant. Ymwelir ac arolygir eu cartrefi. Mae rhaid iddyn nhw ateb gofynion safonau llym. Yn ogystal â hebrwng eich plant i’r ysgol gallen nhw warchod dros y gwyliau, gan roi sicrwydd parhaol. Mae gwarchodwyr plant yn:

  • cael eu monitro yn erbyn safonau cenedlaethol
  • wedi’u hyfforddi mewn sgiliau fel cymorth cyntaf,hylendid bwyd a rheolaeth ymddygiad
  • wedi’u yswirio ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Mae gan nifer o warchodwyr plant gymhwysterau gofal plant hefyd.

 

5. Beth ydw i’n wneud os ydw i’n gofidio am blentyn?

Peidiwch âg aros hyd eich bod yn sicr, cysylltwch â’r Heddlu, Gwasanaethau Cymdeithasol ac elusennau  fel yr NSPCC. Mae llawer o linellau cymorth a gwefanau ar gael i wrando arnoch neu i gynnig cyngor a gwybodaeth.

 

6. A fydd fy ngalwad yn gyfrinachol?

Os ydych yn ffonio does dim rhaid dweud pwy ydych chi. Bydd yr asiantaethau yn dal i weithredu ar beth ddywedwch chi wrthyn nhw. Mewn ambell achos bydd yn anghenrheidrol i ofyn am eich manylion os daw yr achos i’r llys ac rydych chi yn dyst i’r camdrin.

 

7. Beth sy’n digwydd pan wneir adroddiad?

Ymdrinir â phob galwad gan staff sydd wedi derbyn hyfforddiant a byddant yn cydweithio â phobl broffesiynnol eraill. Bydden nhw yn cynnal yr asesiad canlynol :

  • Ydy hwn yn blentyn mewn angen?
  • Os felly, beth yw anghenion y plentyn?
  • Oes achos rhesymol i amau bod y plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol?
  • Ydy’r rhieni yn gallu ymateb yn briodol i anghenion y plentyn?
  • Ydy’r plentyn wedi’i ddiogelu’n ddigonol rhag niwed sylweddol ac ydy’r rhieni’n gallu hyrwyddo lles a datblygiad eu plentyn?
  • A oes angen y gwasanaethau ar y plentyn?
  • Oes angen gweithredu i ddiogelu ac hyrwyddo lles y plentyn a lles unrhyw blant eraill a allai ddod i gysylltiad â’r camdriniwr honedig?

Yn dilyn hwn efallai y cynhelir cyfarfod er mwyn penderfynu pa weithred sy'n angenrheidol er mwyn sicrhau diogelwch y plentyn.

 

8. Beth ddylwn i wneud os yw fy mhlentyn yn datguddio ei bod ef/hi yn cael ei gamdrin?

Cysylltwch â’r Heddlu ar unwaith. Dangoswch i’ch plentyn eich bod wedi clywed ac yn gwrando iddo/hi. Cysurwch eich plentyn. Sicrhewch ei b/fod yn ddiogel ar bob achlysur.  Am fwy o gyngor, ewch i'r adran cam-drin domestig.

 

9. A gymerir fy mhlentyn oddiwrthyf?

Dim ond, ar ôl yr asesiad, os gwelir bod risg i fywyd y plentyn neu bod niwed difrifol yn debyg. Gweithredir ar unwaith er mwyn diogelu’r plentyn. Bydd hyn yn cynnwys yr Heddlu a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

10. Oes gan blant hawliau?

Oes. Mae’r CCUHP yn sefyll am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc ym mhob man yn y byd, waeth pwy ydyn nhw neu ble maen nhw’n byw neu beth maen nhw’n gredu ynddo. Mae gan yr CCUHP 54 o erthyglau, a 42 o hawliau ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Mae’r lleill i gyd am sut ddylai llywodraethau ac oedolion weithio gyda’u gilydd i sicrhau gall plant a phobl ifanc gael mynediad i’w hawliau.

Mae’r hawliau ar y rhestr yn cwmpasu yr holl bethau sydd angen ar blant a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddyn nhw bopeth sydd angen er mwyn goroesi a datblygu, a bod llais ganddyn nhw yn y penderfyniadau hynny sy’n effeithio ar eu bywydau. www.cewc-cymru.org.uk ac www.uncrcletsgetitright.co.uk. Os ydych chi am ddarllen yr CCUHP mewn ieithoedd eraill ewch i wefan UNICEF. www.unicef.org.uk

Dydy CCUHP ddim yn ddeddf ond oherwydd bod llywodraeth yr DU wedi cytuno â hyn, maen nhw’n gweithio er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn yr DU yn derbyn pob hawl.

 

11. Oes unrhyw un yn sefyll dros hawliau plant?

Oes. Yng Nghymru mae gennym Comisiynydd Plant: rôl Keith Towler yw cyfarfod â phlant a phobl ifanc ac i wrando ar beth ddywedon nhw am faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’n hyrwyddo eu hachos  ac yn eu cynrychioli nhw a’u hawliau mewn sefydliadau megis cynghorau a byrddau iechyd. Mae swyddfa y Comisiynydd hefyd ar gael i roi cyngor a gwybodaeth i blant ac oedolion. www.childcom.org.uk