Eich Ysgol a'ch Plentyn

Gwefan yr Ysgol

Yn gynyddol mae gwefannau ysgol yn cynnig gwybodaeth i rieni a disgyblion  mewn modd hygyrch ac uniongyrchol. Bydd y rhan fwyaf o wefannau yn dangos rhestrau digwyddiadau, enwau pobl i gysylltu â hwy, rheolau a rheoliadau, yn canolbwyntio ar lwyddiannau’r ysgol ac yn aml adroddiadau ESTYN  a wnaed gan arolygwyr ysgolion. Ceir hyperddolenni defnyddiol yn aml i ddogfennau  neu sefydliadau all fod o gymorth i deuluoedd.

 

Pan fo pethau’n mynd o chwith

Weithiau gall pobl ifanc ddefnyddio technolegau digidol megis ffonau smart yn amhriodol ac efallai anwybyddu rheolau’r ysgol ynglŷn â’u defnydd. Ar adegau eraill gall materion mwy difrifol ddigwydd sy’n fwy na thorri rheol ysgol ac sydd mewn gwirionedd yn droseddau yn ôl y gyfraith, megis cyfathrebu maleisus  a dosbarthu delweddau anweddus o blentyn (unrhyw un o dan 18 oed).

Gall Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion  (SHCY) gefnogi pobl ifanc sydd naill ai’n ddioddefwyr y math hwn o drosedd neu’n unigolion sy’n gyfrifol am yr ymddygiad amhriodol ac anghyfreithlon. Hyfforddir SHCY i hwyluso cyfarfodydd adferol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cynorthwyo i nodi’r niwed a achoswyd, sut y mae wedi effeithio ar y dioddefwr a beth sydd angen i’r drwgweithredwr ei wneud er mwyn adfer y niwed a wnaed. Bydd ysgolion yn aml yn dewis cynnwys SHCY yn y broses o ddelio gyda’r math hwn o droseddau.

 

Polisïau Defnydd Derbyniol (AUP)

Bydd gan ysgol eich plentyn AUP. AUP yw polisi sy’n amlinellu rheolau ynglŷn â sut y gall cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd gael eu defnyddio yn yr ysgol. Y rhan bwysicaf o ddogfen AUP yw’r cod ymddygiad sy’n rheoli ymddygiad defnyddiwr tra bydd wedi ei gysylltu â’r rhwydwaith/rhyngrwyd. 

Gall y cod ymddygiad gynnwys rhyw ddisgrifiad o’r hyn y gellir ei alw’n ‘netiquette’, sy’n cynnwys mathau o ymddygiad megis defnyddio iaith briodol/gwrtais tra ar-lein, osgoi gweithgareddau anghyfreithlon gan sicrhau na fydd gweithgareddau y gall y defnyddiwr eu defnyddio yn achosi diflastod neu’n tramgwyddo unrhyw ddefnyddiwr arall ar y system.

Bydd ysgolion yn rhybuddio eu defnyddwyr i beidio â datgelu gwybodaeth bersonol, lawrlwytho deunyddiau amhriodol neu anweddus ac i ddilyn yr holl ofynion a amlinellir yn yr AUP. 

Efallai y bydd angen i chi a’ch plentyn arwyddo cytundeb, i sicrhau bod eich plentyn yn dilyn yr holl ffiniau a osodir ar gyfer defnydd diogel a chyfrifol ar y rhyngrwyd yn yr ysgol. 

Cyn y gall ffotograffau gael eu tynnu neu eu defnyddio gan ysgol eich plentyn dylid cael eich caniatâd chi. Gallech wrthod defnydd o lun eich plentyn ar wefan yr ysgol. Cynghorir na ddylid crybwyll enw plentyn pan ddefnyddir ei lun ar wefan yr ysgol er mwyn diogelu preifatrwydd.