Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1.Beth ydych chi'n ddweud wrth eich plentyn am gadw'n ddiogel?

Dywedwch wrthynt beth i'w wneud ac at bwy i fynd ato pan yn teimlo yn anniogel. Efallai bydd rhaid i chi ddweud wrthynt sut i ymgodymu mewn sefyllfaoedd amrywiol.

 

2. Beth yw'r perygl i'm mhlentyn?

Mae'r ystadegau yn dangos bod llawer mwy o blant yn cael eu camdrin/ aflonyddu/ cipio/lladd gan bobl maen nhw'n adnabod yn hytrach na dieithriaid. Mae plant o bob oedran,rhyw a hil yn agored i gael eu cipio . Ceisiwch ymarfer sgiliau cadw'n ddiogel gyda'ch plentyn fel eu bod yn ail natur iddyn nhw. 

Mae diogelwch yn y cartref ac yn y gymdogaeth yn faterion sydd angen trafod. Gwiriwch eich cartref am unrhyw berygl i'ch plentyn. Oes gennych chi larwm mwg/ carbon monocsid? A oes yna beryglon trydanol? A ydych chi'n cadw moddion mewn lle diogel? Pwy sydd a mynediad i'ch cartref ac ydy nhw'n cynrychioli perygl?                          

 

3. Ar oddeutu oedran pa dylai plant wybod am ddieithriaid?

Mae plant mor ifanc a 3 neu 4 yn dechrau dangos  ymwybyddiaeth o beth yw dieithryn ac yn ddeall pam na ddylen nhw ymddiried ynddyn nhw.

Efallai byddai rhieni yn pryderu am godi ofn ar eu plant ifanc  wrth drafod hwn .Beth bynnag mae'r mwyafrif o blant yn gweld llwyth o ddelwau ar y teledu a.y.b. o blant sydd ar goll ac o bosibl yn derbyn cysur wrth drafod pwnc ,a allai fod yn frawychus, yn bwyllog ac yn rhesymol.

 

4. Beth ddylai eich plentyn wneud os yw adref ar ben ei hun?

Naill ai gadewch allwedd gyda chydymog dibynadwy- fe allwch ddweud wrth eich cymydog bod eich plentyn adref ar ben ei hun neu gadael yr allwedd mewn lle diogel(blwch allwedd).

 

4a. Beth os oes rhywun yn curo ar y drws neu yn canu'r gloch?

Trefnwch mlaen llaw gyda'ch plentyn beth ddylai wneud os yw rhywun yn curo ar y drws. A allai wirio pwy sydd yno?

Os yn ansicr – peidio âg agor y drws ac i'ch ffonio chi.

 

5. A ddylen nhw ateb y ffôn?

Na. Dywedwch wrtho i wirio pwy yw wrth adael i'r alwad fynd i'r atebwr ffôn

  

6. Beth os ydych yn colli'ch plentyn mewn siop?

Peidiwch a gor ymateb - cerwch at yr i'r aelod staff agosaf neu at y ddesg ymholiadau, gwrandewch yn ofalus ar unrhyw gyhoeddiad ar yr uchelseinydd,  a dywedwch wrth staff diogelwch yr adeilad.

 

7. Pa mor ddiogel yw fy mhlentyn pan dwi ddim yno?

Trafodwch gyda'ch plentyn am bwy allai ymddiried ynddo/i os oes angen help arno/hi- fel Swyddog yr Heddlu neu athro a sut i gael yr hyder i ddibynnu ar ei reddf os oes teimlad drwg gydag ef/hi am le neu berson. Mae'n help iddo i fod yn ymwybodol o'i amgylchedd ac i ddysgu i fod yn bendant. Trafodwch rheolau yn debyg, i byth i fynd unlle gyda rhywun ar ben ei hun ac i ddweud wrthoch chi / gofyn caniatad pan fyddai'n mynd rhywle. 

 

8. Sut fyddai'n gwybod os oedd fy mhlentyn yn cael ei gam-drin?

Wrth annog aelodau o'r teulu i fod yn agored gyda'i gilydd  gall plentyn deimlo dan lai o bwysau i gadw cyfrinach os oes rhywbeth yn digwydd. Edrychwch am yr arwyddion a restrwyd ar dudalen' Beth ddylech chi wybod', adran Diogelwch Personol

 

9. Pa oedran allai plentyn cael ei adael ar ben ei hun?

Dydy'r gyfraith ddim yn gosod  oedran arbennig lle mae'n iawn i adael plentyn ar ben ei hun. Er hynny mae'n anghyfreithlon i adael plentyn pan mae hynny'n ei osod mewn perygl. Fe ddylech chi drafod diogelwch a strategaethau er mwyn i'r plentyn wybod beth i wneud os adref ar ben ei hun.

  

10. A ddylwn i adael i'm mhlentyn fynd allan ar ei feic/ beic hebddai?

Fe ddylai fod yn ddigon hen i wybod a gweithredu Rheolau Diogelwch y Ffordd ac hefyd wedi cyflawni cwrs Beicio'n Ddiogel. Fe ddylen nhw wisgo helmed bob tro. Fe ddylen nhw ddweud wrthych bob tro ble maen nhw'n mynd , gyda phwy ac am faint o amser. Sicrhewch fod eich plentyn yn weladwy wrth wisgo dillad adlewyrchu addas wrth gerdded neu feicio, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf a thywydd garw.

Mae ystadegau'n dangos bod 130 o blant yn cael eu lladd ar ein ffyrdd a hyd at 5000 yn cael niwed, ar gyfartaledd, pob blwyddyn.

Nid yw 82% yn gwisgo helmed.

 

11. Pa gyngor fyddai'n rhoi i'm mhlentyn ar noson allan?

PEIDIWCH Â MYND ALLAN AR BEN EICH HUN.

Mae 'n ddiogel gydag eraill. Dydy'r rheol ddim ond i blant

bach yn unig mae'n gymwys i'r arddegau hefyd.

DYWEDWCH WRTH OEDOLYN POB TRO, BLE RYDYCH YN MYND.

Mae'n smart i ddweud wrth rywun ble rydych chi bob amser . Os ydych chi yn gwynebu sefyllfa peryglus neu eich bod mewn trafferth, bydd eich teulu a'ch ffrindiau yn gwybod lle rydych.

DYWEDWCH NA OS YDYCH CHI DAN FYGYTHIAD.  Os ydy rhywun – unrhywun- yn eich cyffwrdd mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo'n annifyr, mae hawl gennych i ddweud na.  Os oes pwysau arnoch i wneud rhywbeth rydych chi'n meddwl sy'n anghywir, i ymwneud a chyffuriau neu rhyw, byddwch yn gryf a sefwch yn gadarn. Mae modd dadlwytho'r rhestr gwirio o'r tudalen 'Beth alwch chi wneud?' ar adran y rhieni, er mwyn ei drafod gyda'ch mab/merch.