Dysgu Gyda'ch SHCY

Cyfres o wersi yw Rhaglen Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan sy’n pontio’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol Pedwar (disgyblion oed 5 i 16) i godi ymwybyddiaeth am faterion cymunedol ac i hyrwyddo atal troseddu. Mae’r negeseuon yn cael eu cyflwyno gan Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgol (SHCY).

Mae’r rhaglen wedi ei threfnu ar ffurf cynllun gwaith troellog gyda phob gwers yn briodol ac yn gyfoes gan adeiladu ar y wers flaenorol. Dengys y matrics y rhaglen sydd ar gael i’r ysgolion: Matrics Gwersi. Mae gwaith ategol i‘r athro ei ddefnyddio i ddilyn i fyny i’w cael yn rhan yr athro o’r safle we.

Mae Diogelwch Personol yn fater allweddol yn y rhaglen. Mae gwersi neilltuol yn trin yn arbennig gyda'r pwnc tra bod y gwersi eraill ag elfen o'r pwnc hefyd.

Cyfnod Sylfaen Pobl Sy'n Helpu Ni (5-7 mlwydd oed)

Sylfaen – Hafan Ddiogel (5–7 mlwydd oed)

CA2 Isaf Ffrind neu Elyn (7-9 mlwydd oed)

Cyfnod Allweddol 2 Uchaf: Hawl i fod yn ddiogel (9-11 mlwydd oed)

CA3 Diogelwch Personol (11-14 mlwydd oed)

CA3 Niwed Cudd (11-14 mlwydd oed)

CA4 Twyll Peryglus (14-16 mlwydd oed)

CA4 Na Yw Na (14-16 mlwydd oed)