Ceir yr addysg orau yn y cartref. Bydd plant sy’n cael eu harwain a’u hannog gan eu rhieni i fod yn ddefnyddwyr cyfrifol o’r dechnoleg ddim yn mynd o’u lle.
Bydd eich Swyddog Heddlu Cymuned Ysgol hefyd â rhan i’w chwarae. Bydd y swyddog yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol gan gyflwyno gwersi ar ddiogelwch personol sy’n cynnwys y defnydd diogel o’r Rhyngrwyd a ffonau symudol.
Fel rhan o’u rôl cynhaliol maent yn delio gyda materion fel bwlio drwy negeseuon testun ac yn ceisio adfer perthnas dda rhwng disgyblion ac eraill. Mae llawer o gymorth ar gael ar y Rhyngrwyd. Gallwch chi neu eich plentyn ymweld â safle CEOP a Wisekids yn ogystal a safle eich darparwr gwasanaeth.
Mae chwarae gemau ar lein yn hynod boblogaidd. Mae gemau yn enghraifft o MMORPG sy’n golygu fod iddynt nifer diddiwedd o chwaraewyr ac nid ydynt byth yn gorffen. Gall plant a phobl ifanc chwarae a chyfathrebu gyda chwaraewyr eraill ar draws y byd! Mae’n werth cofio i osod ffiniau a rheolau am ddefnydd derbyniol o amser , mae’n demtasiwn i barhau i chwarae!
Nid sgrîn yw’r peth olaf y dylent ei weld cyn cysgu.
Apps - talfyriad am ‘application’. Sef rhan o feddalwedd sy’n gallu rhedeg ar y Rhyngrwyd, ar eich cyfrifiadur neu ar eich ffôn neu ddyfais trydanol arall.
BBN SMS Messenger - offeryn ar y we sy’n anfon negeseuon byr i ffonau symudol. Mae’n galluogi pawb i anfon neges SMS yn syth i deulu, ffrindiau, cydweithwyr neu ddisgyblion eraill. Gellir darlledu’r neges at lawer o bobl.
Blog – enw ar log we yw hwn, tudalen we, lle mae pobl yn gallu postio eu barn am unrhyw destun. Gellir eu huwchraddio yn ddyddiol gyda thecst, lluniau a fideos gan adael i’r darllenwr ychwanegu eu sylwadau personol
Bluetooth - y ffordd mae ffonau symudol yn cysylltu gyda’u gilydd. Yn aml defnyddir i rannu gwybodaeth, tonau ffôn neu wybodaeth personol o un ffôn symudol i un arall.
Cameraphone/videophone - Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol gamera sy’n gallu tynnu llun neu fideo a’u hanfon i ffôn arall neu eu llwytho i’r Rhyngrwyd.
Chatroom – man cyfarfod ar y we lle mae pobl yn gallu rhannu negeseuon.
Content Lock - dyma system awtomatig sy’n rhwystro ffonau symudol rhag derbyn mynediad i ddeunydd dan 18 mlwydd oed.
Location-based services – dyma’r ffordd i leoliad ffôn symudol gael ei adnabod.
MMS/picture messaging - Multimedia Messaging Service gwasanaeth tebyg i SMS neu anfon neges testun ond mae’n bosibl ychwanegu lluniau neu fideo i’r neges.
Personal profile - Eich proffil yw’r wybodaeth personol y gallwch ei wneud yn hysbys i eraill mewn ystafelloedd sgwrsio, blogiau, gwasanaethau negeseuon gwib a safleoedd cymunedol. Mae’n bwysig fod plant ond yn datgelu eu proffil i’r rhai hynny maent yn eu hadnabod go iawn, dylent bod amser osgoi rhannu unrhyw wybodaeth personol fel eu henwau llawn, cyfeiriad a’u rhifau ffôn.
Post – yw’r testun neu luniau a fideos a osodir ar safle we megis safleoedd cymdeithasol.
Shortcode - Fel arfer mae hwn yn rhif ffon o dri, pedwar neu bump rhif a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau testun cyfradd premiwm wrth bleidleisio drwy destun mewn rhaglen deledu
SMS – Short Messaging Service - Gwsanaeth Negeseuon Byr sy’n anfon neges testun rhwng ffonau symudol.
Spam - negeseuon sothach neu e.bost nas gofynoch amdanynt.
WAP - Wireless Application Protocol yw’r dechnoleg a ddefnyddir gan lawer o ffonau symudol i gael mynediad i’r Rhyngrwyd.
Dylai’ch plentyn fod yn 13 mlwydd oed i sefydlu cyfrif ar Weplyfr. Os ydych yn caniatau i blentyn iau na hyn defnyddio Weplyfr nid ydych yn torri’r gyfraith ond yn mynd yn groes i delerau ac amodau Weplyfr.
Mae yna resymau da dros gael cyfyngiadau oedran fel hyn. Oedolion yw prif ddefnyddwyr Weplyfr ac felly cynnwys ar gyfer oedolion a welir yn bennaf. Mae’n rhaid troedio llinell denau . Os ydych yn rhwystro eich plentyn rhag defnyddio’r safle gallent agor cyfrif yn ddiarwybod i chi - o ganlyniad byddant yn agored i niwed gan nad ydych yn gallu ei fonitro.
Y peth gorau yw trafod gyda’ch plentyn pa oed ddylai fod yn addas a phriodol iddo fod ar safle rhwydwaith cymdeithasol. Siaradwch am y risgiau ac yna byddwch yn rhan o’r ddefnydd ohono.
Anogwch hwy i fod yn ddefnyddwyr cyfrifol. Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn penodol am Weplyfr gallwch ymweld a’u safle diogelwch i’r teulu am help a chyngor. www.facebook.com/safety
Mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch plentyn a thawelu ei meddwl a bod rhywbeth y gellir ei wneud i roi terfyn ar y negeseuon cas.
Os gwyddoch fod y negeseuon yn cael eu hanfon gan ffrind neu ddisgybl arall yn yr ysgol, gofynnwch i’r ysgol am help. Mae ganddynt bolisiau gwrth-fwlio penodol a byddant yn gweithredu i gynnal eich plentyn. Os ydych yn byw yng Nghymru gall eich Swyddog Heddlu Cymuned Ysgol eich helpu yn ogystal.
Mae ffôn talu wrth fynd yn syniad da os ydych am gadw golwg ar gost y ffôn. Byddwch mewn rheolaeth o’r hyn sy’n cael ei wario. Gall cytundeb ffôn ymddangos yn ddrytach ond gall y darparwr gwasanaeth osod ‘terfyn’ ar y cyfrif fel nad yw galwadau etc yn mynd tros rhyw swm.
Mae yna rhywfaint o fanteision diogelwch wrth gael cytundeb oherwydd y gellir cadw golwg ar ddefnydd eich plentyn o’r ffôn. Gallwch weld ar eich bil y rhifau a ddeialir ac a dderbynnir, gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o fonitro defnydd o’r ffôn.
Gallwch. Drwy ffonio eich darparwr gwasanaeth, mae’n dal yr holl wybodaeth angenrheidiol i ddatgysylltu y cyfrif a blocio’r ffôn. Maent yn defynddio IMEI (International Mobile Equipment Identity) rhif yw hwn sy’n unigryw i bob ffôn. Gallwch ddarganfod rhif IMEI eich ffôn drwy edrych ger y batri neu ar rai ffonau mae ar gael drwy ddeialu *#06#.
Gwnewch hyn nawr a’i gadw mewn man diogel!
Oes! Mae rheolaeth rhiant yn bwysig. Bydd trefnwyr gwasanaeth ffonau symudol yn cynnig gwasanaeth rheolaeth rhiant rhad ac am ddim er mwyn cyfyngu ar y math o gynnwys y gall plant gael mynediad iddo drwy’r rhwydwaith symudol i’r rhai sy’n addas i rai dan 18 mlwydd oed yn unig.
Gwiriwch gyda’ch darparwr fod y rheolaeth rhiant mewn lle ac wedi ei alluogi, os nad ydynt gofynnwch iddynt gael ei droi ymlaen. Mae hyn yn arbennig o bwysig os mai oedolyn oedd berchen y ffôn cyn y plentyn.