Beth yw’r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (y Rhaglen) – a elwir hefyd yn SchoolBeat

Mae’r Rhaglen yn enghraifft o Weithio mewn Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar Heddlu Cymru ac mae’n cynnwys cyfres o fewnbynnau Atal Troseddau a chyflwyno gwersi a mentrau Plismona Cefnogol mewn Ysgolion sydd â’r nodau canlynol:

  • addysgu plant a phobl ifanc ynglŷn â’r niwed y gall camddefnyddio sylweddau ei achosi i’w hiechyd, iechyd eu teuluoedd a’r gymuned ehangach
  • hyrwyddo egwyddorion dinasyddiaeth gadarnhaol drwy gyfrwng addysg
  • gostwng lefelau trosedd ac anrhefn yn ein cymunedau ifanc.

Mae’r Rhaglen yn rhoi gwasanaeth cofleidiol i ysgolion yng Nghymru ac yn cynnig addysg atal troseddau a gwasanaethau plismona cefnogol a grisialir yn is-bennawd y Rhaglen:

“Heddlu’n diogelu plant Cymru drwy addysg atal troseddau”

Mae’r Swyddogion hyn wedi’u hyfforddi i gyflwyno gwersi ar themâu camddefnyddio sylweddau, diogelwch personol, diogelu ac ymddygiad a chymuned i safon addysgol arfer gorau a groesewir gan ysgolion.  Yn ogystal â’u hyfforddiant proffesiynol fel Swyddogion yr Heddlu, maent yn cefnogi ysgolion mewn nifer o ffyrdd drwy blismona cefnogol; delio â digwyddiadau gan ddefnyddio polisi Trechu Troseddau mewn Ysgolion a chynnig datrysiadau adferol gan gynnwys cynadledda adferol pan fydd angen.

Wrth wraidd yr holl waith hwn y mae’r gofyniad i’r Swyddogion ddiogelu’r plant a’r bobl ifanc y maent mewn cysylltiad â nhw. Maent yn gweithio gydag asiantaethau partner fel y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a gwasanaethau Diogelu i gyflawni’r nod hwn.

Mae’r Rhaglen yn gweithredu mewn ffordd gorfforaethol i sicrhau bod bob plentyn, 5 i 16 oed ledled Cymru yn cael yr un wybodaeth gyfredol a chywir.  Mae’r Swyddogion yn gweithio’n agos gydag arweinwyr bugeiliol mewn ysgolion i gefnogi eu cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). 

Ers mis Medi 2016, mae’r gweithgareddau atal troseddau wedi cael eu grwpio o dan Ddarpariaeth (Craidd Critigol) wedi’i Thargedu a Dewislen Cymorth.  Mae’r Swyddogion hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o gyflwyniadau mewn Gwasanaethau. Mae’r gwasanaethau yn cynnig hyblygrwydd ac yn sicrhau bod y Rhaglen yn ymwybodol o’r tueddiadau a’r materion sy’n dod i’r amlwg.

Pam y datblygwyd Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan?

Datblygwyd y Rhaglen i addysgu pobl ifanc ynglŷn â rhai o’r heriau sy’n effeithio ar ein cymdeithas heddiw. Nod y Rhaglen yw diogelu pob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yng Nghymru drwy roi gwybodaeth gyfredol iddynt am y peryglon sy’n gysylltiedig â materion fel defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, bwlio, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch ar y rhyngrwyd, arfau, defnyddio ffonau symudol, troseddau ceir a chydlyniant cymunedol. 

Mae plant a phobl ifanc yn aml yn anymwybodol o’r problemau hyn neu’r potensial o dorri’r gyfraith. Felly mae’n bwysig bod plant yn cael gwybodaeth gyfredol a chywir gan arbenigwyr i sicrhau y gallant wneud penderfyniadau cywir ar sail gwybodaeth a thrwy hynny osgoi mynd i mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol.

Mae’r Rhaglen yn annog dinasyddiaeth gadarnhaol ac yn ceisio diogelu’r rhai sy’n agored i niwed a allai ddod yn ddioddefwyr gweithgarwch troseddol.