Caiff unrhyw wybodaeth a gyflwynir i schoolbeat gan ddefnyddiwr drwy'r wefan hon ei thrin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei datgelu i drydydd partïon oni fydd hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Bydd parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn dangos i ni eich bod yn deall y datganiad hwn a'ch bod yn cytuno iddo.
Ceisir gwybodaeth bersonol mewn rhai achosion. Bydd hynny fel arfer yn wirfoddol a nodir hynny gyda (dewisol) yn y blwch perthnasol.
Caiff defnydd bwriedig unrhyw wybodaeth o’r fath ei ddangos ar waelod yr adran berthnasol. Gall y wybodaeth gael ei chadw neu ei phrosesu drwy gyfrifiadur neu ddull arall.
Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad oes gan schoolbeat unrhyw reolaeth drostynt. Nid yw schoolbeat yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw un o'r gwefannau cyfeiriol, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi'r farn a fynegir ynddynt. Ni fydd rhestru unrhyw wefan benodol yn gyfystyr â chefnogaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau a gysylltir iddynt.
Neu gallwch ysgrifennu i'r cyfeiriad canlynol:
Rheolwr Gwefan a Dylunio Schoolbeat
Adran Cysylltiadau Corfforaethol
Pencadlys Heddlu Gwent
Croesyceiliog
Cwmbrân
NP44 2XJ
NODER: NID yw'r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer riportio troseddau, dilynwch y ddolen hon ar gyfer cyngor amgen.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud y wefan hon yn hygyrch i bob un o'n hymwelwyr waeth beth fo’u porwr, llwyfan neu gyflymder Ryngrwyd. Fodd bynnag, rydym yn argymell defnyddio Internet Explorer 5 neu uwch oherwydd y nodweddion hygyrchedd a gefnogir gan y porwyr hyn.
Cynyddu Maint Testun
Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn gweld y testun sgrîn yn haws i'w ddarllen drwy gynyddu’r maint y caiff y testun ei arddangos. Er mwyn gwneud hyn dylech addasu gosodiadau eich porwr.
Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer, ewch i ddewislen ‘View’, dewiswch ‘Text Size’ ac yna naill ai ‘Larger’ neu ‘Largest’. Os ydych yn defnyddio Netscape Navigator, ewch i ddewislen ‘View’ a dewis ‘Increase Font’ hyd nes y bydd y testun o'r maint yr ydych ei angen.
Lawrlwytho Ffeiliau
Mae pob deunydd y gellir ei lawrlwytho ar y wefan hon ar gael mewn Fformat Dogfen Gludadawy (PDF) Adobe . Er mwyn gweld y ffeiliau bydd angen Adobe Reader gwasanaeth am ddim ar gael i’w lawrlwytho o'r wefan Adobe.
Am ragor o wybodaeth am gyrchu ffeiliau PDF ewch i Access.adobe.com, adnodd a gynlluniwyd i helpu pobl sydd ag anableddau gweledol i weithio'n fwy effeithiol gyda meddalwedd Adobe® Acrobat® a ffeiliau Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) Adobe. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Acrobat 5.0, offer trawsnewidiad ar-lein, gwybodaeth ac adnoddau yn cynnwys Cwestiynau a Ofynnir yn Aml a dolenni yn ogystal â lawrlwythiadau.
Os ydych yn cael anhawster i lawrlwytho unrhyw rai o'r adnoddau sydd ar gael o'r wefan hon cysylltwch â ni. Byddem yn hapus i ddod i drefniant arall ac e-bostio neu bostio’r wybodaeth yr ydych ei heisiau.