Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Heddlu Gogledd Cymru yn lansio Cystadleuaeth Diogelwch y We

20.1.2021

Mae disgyblion ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru yn cael her newydd i greu poster unigryw am ddiogelwch ar y we gyda’r cyfle i ennill gwobrau arbennig ar gyfer eu hysgolion.

Cystadleuaeth Diogelwch Rhyngrwyd (YouTube)
visit

Mae disgyblion ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru yn cael her newydd i greu poster unigryw am ddiogelwch ar y we gyda’r cyfle i ennill gwobrau arbennig ar gyfer eu hysgolion.

Mae rhaglen SchoolBeat Heddlu Gogledd Cymru, y Tîm Seiber Droseddau a PACT (Police & Communities Trust) wedi lansio’r ymgyrch gyffrous yma gyda’r nôd o godi ymwybyddiaeth ar sut i gadw’n ddiogel ar y wê.

Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei lansio mewn ymateb i’r cynnydd mawr yn y nifer o bobl ifanc sy’n treulio’u hamser ar y wefan ers cychwyn y pandemig Coronafeirws nôl ym mis Mawrth 2020, a gyda’r gaeaf yma a chyfnod o glo arall roedd swyddogion eisiau i blant gael cyfle i fod yn greadigol a chael cyfle i ennill gwobrau gwych ar gyfer eu hunain ac ar gyfer eu hysgol.

Meddai PC Dewi Owen o gynllun SchoolBeat Heddlu Gogledd Cymru: “Wrth ymateb i rai o’r pryderon yma ddaru ni benderfynu creu’r gystadleuaeth dylunio poster yma ac rydym yn chwilio am waith lliwgar, deniadol sy’n llawn gwybodaeth ynglŷn â phwysigrwydd cadw’n ddiogel ar y we.

“Rydym yn gobeithio bydd y prosiect yma yn sbarduno dychymyg y disgyblion a’u rhieni/gofalwyr drwy ofyn iddynt wneud eu gwaith ymchwil ar sut i ddefnyddio’r wê yn ddiogel.

“Gyda disgyblion dal yn dysgu o gartref am y tro roedd hwn yn gyfle gwych i lansio’r gystadleuaeth, a gyda Diwrnod Diogelwch y Wê rownd y gornel, roeddem yn meddwl ei fod yn gyfle da i gael y plant i feddwl am syniadau. Rydym hefyd wedi cadw’r dyddiad cau tan mis Ebrill, er mwyn caniatáu i rai ysgolion gymryd y cyfle i gymryd rhan unwaith mae pawb yn nôl yn y dosbarth.

Fe ychwanegodd: “Yn anffodus, mae criw SchoolBeat ar draws gogledd Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn digwyddiadau o gam-drin y wê yn gysylltiedig â disgyblion sydd wedi cael eu riportio gan ysgolion a rhieni ers i ddisgyblion ddychwelyd ym mis Medi 2020.

“Mae cael defnyddio’r wefan yn ddiogel a didrafferth yn arf holl bwysig ar gyfer datblygiad ein pobl ifanc, ac mi fydd y wê yn cael ei ddefnyddio mwy a mwy yn eu haddysg. Y bobl ifanc yma yw ein dyfodol, ac rydym ni, fel Heddlu Gogledd Cymru wedi ein hymrwymo i sicrhau eu bod yn ddiogel.

“Rydym yn gobeithio bydd cymaint o ddisgyblion ag sy’n bosib cymryd rhan yn y gystadleuaeth yma. Wrth iddynt gyfathrebu ag eraill, unai adref neu yn yr ysgol, mi fydd yn helpu lledaenu’r neges ddiogelwch ymhellach. Mae ‘na wobrau gwych ar gyfer unigolion ac ysgolion, ac mae digonedd o amser er mwyn ceisio eu hennill!”

Mae pob ysgol gynradd yn cael cyswllt gan eu swyddog SchoolBeat ac mi fyddent yn cael fideo sy’n lansio’r gystadleuaeth  a fydd yn cael ei rannu ymysg yr athrawon a’u disgyblion.

Y sialens:

  • Dylunio poster neu ddelwedd graffeg ynglŷn â chadw’n ddiogel ar y wê.
  • Cynnwys cyngor ar faterion megis pwysigrwydd peidio â datgelu manylion personol, creu cyfrinair da a siarad hefo unigolion am faterion megis seiber fwlio.
  • Mae plant yn cael eu hannog i wneud gwaith ymchwalu ar wefannau megis yr NSPCC am gyngor.

Y gwobrau:

  • Mi fydd y tair ysgol fuddugol yn derbyn £300 yr un ac ymweliad gan Ystafell Ddianc Rhithiol CGI
  • Bydd tair ysgol sydd ymhlith y gorau o’r gweddill yn derbyn £150 yr un.
  • Mi fydd y disgyblion buddugol yn ennill llun carfan rygbi’r Gweilch wedi eu llofnodi, crys clwb pêl-droed Wrecsam wedi’i lofnodi a 6 tocyn teulu Taith Antur Llechwedd (gwerth £100 yr un) ac Echo Dot.

Sut i gymryd rhan:

Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei wneud yn bosib diolch i gefnogaeth gan Uchel Siryf Clwyd a Gwynedd drwy eu Cynllun Crimebeat, Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Tîm Rygbi’r Gweilch, Clwb Pêl-droed Wrecsam, CGI, Cread  a Llechwedd.

Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn @nwschoolbeat a @NWPCyberCrime a’r hashnod #SeiberDdiogelHGC am y cyngor diweddaraf yn ymwneud â chadw’n ddiogel ar y wê.

Gall disgyblion a rhieni hefyd fynd ar wefan SchoolBeat drwy https://schoolbeat.cymru