DAN 24/7
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Ynglŷn â DAN 24/7
Mae’r Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol, neu DAN 24/7 dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Llinell gymorth ffôn am ddim a dwyieithog ydy DAN 24/7 sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth a/neu help ynglyn â chyffuriau a/neu alcohol.
Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae’r llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr cefnogi yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gwasanaethau lleol a rhanbarthol addas.
Gweithio i atal Camdrin Sylweddau
Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion yn ymweld ag ysgolion i gyflwyno sesiynau i ddisgyblion o 5 i 16 oed. Mae ein sesiynau wedi eu trefnu i gyd gyd-fynd â diddordebau a galluoedd y disgyblion ac fe'i cynigir i ysgolion ledled Cymru.
Gall staff ysgolion ddod o hyd i'n canllawiau cyffuriau a sylweddau i Athrawon yma:
‘Paid anwybyddu chwyrnu’
Yn dilyn nifer o farwolaethau gwenwyno cyffuriau lle mae tystion wedi adrodd eu bod yn credu bod ffrindiau yn cysgu yn unig, gan fod modd eu clywed yn chwyrnu, mae Dan 24/7 wedi cynhyrchu animeiddiad byr o’r enw ‘Peidiwch anwybyddu chwyrnu’. Mae'n ffilm lleihau niwed fer sy'n ymwneud ag iselder anadlol ar ôl defnyddio Cyffuriau Iselydd y System Nerfol Ganolog.