Meic Cymru
Rhywun ar dy ochr di
Ynglŷn â Meic Cymru
Meic yw'r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru rhwng 0 a 25 oed. Gellir cysylltu â gwasanaeth dwyieithog Meic, yn gyfrinachol ac am ddim, ar y ffôn (08088023456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein ar ein gwefan. Maent yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd o'r flwyddyn. Mae eu gwefan yn cynnwys llawer o erthyglau diddorol sydd yn berthnasol i blant a phobl ifanc, ac mae ganddynt adran i weithwyr proffesiynol hefyd gyda llawer o adnoddau defnyddiol. Maent hefyd yn cysylltu gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Instagram, Facebook a Twitter, ac mae ganddynt sawl fideo rydym wedi eu creu ar ein sianel YouTube.
Cyfeirio disgyblion at gymorth
Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion yn hyrwyddo llinellau cymorth Meic Cymru ar draws Cymru yn ein hymdrech i sicrhau fod pobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r help sydd ar gael ar eu cyfer.